CYNFAS

Maria Hayes
28 Hydref 2020

Celf er Lles

Maria Hayes

28 Hydref 2020 | Minute read

Sut mae mesur ein lles? Beth ydyn ni’n ei wneud i’w gynnal, yn enwedig yn ystod COVID-19? Rydw i wedi sylwi bod fy emosiynau wedi bod yn fwy tanllyd ac anwadal nag arfer ers mis Mawrth. Daw pob diwrnod â’i her newydd. Daw pob darn o waith a moment o fywyd ag elfen o ansicrwydd. Prin yw’r hyn y gallwn ei reoli.

(c) Dr Maria Hayes

Fel artist, gallwn droi at fy ngwaith i gynnal, meithrin ac arbed fy mhwyll. Llenwais fy mag â phaent, pensiliau, brwsys a phapur a mynd i gerdded mynyddoedd, dyffrynnoedd a glan y môr. Wrth dynnu lluniau yng nghanol byd natur - gyda natur - rwyf wedi llwyddo i sefydlogi fy nheimladau, dysgu am yr hyn rwyf yn ei weld a sut i’w gyfleu ar y dudalen. Ers Ebrill 2020 rydw i wedi paentio 74 o luniau hyd yn hyn, yn ogystal â gweithiau eraill mewn llyfrau braslunio ac yn y stiwdio. Ar ôl gorffen pob gwaith bydda i’n ei rannu ar Facebook. Daeth hi’n amlwg yn fuan iawn bod pobl yn gwerthfawrogi’r rhannu hwn ac yn aros yn eiddgar am y darlun nesaf. Cefais fy nghalonogi gan yr ymatebion mod i ddim yn gweithio’n ofer, a bod rhannu’r gwaith yn ateb galw. Mae dyn yn teimlo’r angen i greu, rhannu ac ymateb - ffyrdd o gysylltu a chadw ffydd.

Cynhyrchwyd yr olwyn hon yn dilyn gwaith ymchwil ym Mhrifysgol Aarhus, Denmark.

Gofod gwyrdd yw’r amddiffyniad cryfaf yn erbyn anhwylderau meddwl, iselder, niwrosis a straen ... sy’n awgrymu taw adferiad seicolegol yw gwaddol warchodol bwysicaf gofodau gwyrdd. Mae effaith gofod gwyrdd hefyd yn ddibynnol ar amser, felly mae pobl sy’n treulio mwy o amser mewn gofodau gwyrdd yn cael mwy o fudd meddyliol.

Mae paentio yn yr awyr agored a rhannu fy ngwaith ar y cyfryngau cymdeithasol yn lleddfu fy straen ac yn llesol i mi, ond nid yw’n talu’r biliau. I wneud bywoliaeth fel artist rhaid i mi hwyluso creadigrwydd eraill. Rydw i’n artist hwylusydd – rôl ddwbl gyda’r ail ran yn ddibynnol ar y cyntaf. Rhaid i mi fod yn artist gyntaf er mwyn gallu hwyluso.

Ym mis Mai 2020 cefais rôl gyda phroject Y Lab, NESTA ar y cyd â Phrifysgol Caerdydd a Chyngor Celfyddydau Cymru. Y nod oedd ymchwilio, a chreu project Celf er Lles i’w ddarparu yn ystod y cyfnod clo (Mehefin-Gorffennaf 2020)1.

Dyma ni’n gweithio mewn timau bychan o bobl oedd heb gyfarfod o’r blaen, gan gydweithio’n gyfangwbl o bell. Roedd y briff yn gofyn am broject mentrus, felly dyma ddechrau drwy ymchwilio i’r hyn oedd yn cael ei gynnig yn barod. Mae byd y celfyddydau ac amgueddfeydd wedi bod yn hael eu darpariaeth yn ystod y pandemig; yn galluogi i bobl weld gweithiau ar-lein, comisiynu artistiaid i greu projectau cyfranogol o bell, darparu pecynnau gweithgaredd celf a gwahodd pobl i rannu eu creadigrwydd ar lwyfannau ar-lein. Roedd yn anodd canfod ongl newydd yng nghanol y fath arlwy. Roedd amrywiaeth yr hyn a gynigiwyd ac addasu chwim y sector mewn argyfwng yn creu argraff.

Mesur Lles

Rwy’n ffodus i fyw ar lethrau mynydd yng Ngwynedd, gyda gwledd byd natur ar y rhiniog. Meddyliais am y bobl oedd heb y fath gyfoeth, heb fynediad at ofodau naturiol am amryw resymau. Roeddwn i ar brydiau yn dyheu am fwy o ryddid, i gael anturio yn rhywle arall. Felly dyma’n project ni yn troi at sbectolau cardfwrdd a ffonau symudol i ddarparu fideos Realiti Rhithwir (VR) llawn ysbrydoliaeth. Dyma ni’n darparu dolenni a chyfarwyddiadau manwl ar sut i greu’r fideos – pob un yn adlewyrchu ein gwaith celfyddydol personol. Roedd pob fideo yn mynd ar daith drwy ofodau naturiol ac yn helpu pobl i ddianc o’u gofodau dyddiol. Dyma ni’n eu harwain ar antur danddwr a fry i’r atmosffer, eistedd gyda nhw ger rhaeadr a dod wyneb yn wyneb â llewod yn Affrica.

Roeddwn i am weld os fyddai troi at arfer creadigol dyddiol yn cael effaith bositif ar les y cyfranogwyr. Mae digonedd o dystiolaeth yn cefnogi’r syniad fod projectau Celf er Lles o fudd. Ymddengys y daw cyfran helaeth o’r budd yn y rhan fwyaf o achosion o’r cynnydd yn y cyswllt cymdeithasol fydd cyfranogwyr yn ei fwynhau wrth ymwneud â phroject. Yn ystod y cyfnod clo cawsom gyfle i weld effaith yr ymgysylltu creadigol, a hynny heb yr elfen gymdeithasol.

I weld os oedd budd i’r arfer dyddiol hwn roedd yn rhaid mesur cyn ac ar ôl y gweithgareddau. Roedd hyn yn galw am ddull gwerthuso creadigol, oedd yn hawdd ac yn gyflym i’w ddefnyddio o bell, i gasglu tystiolaeth ac ateb y cwestiwn. Gan nad oedd dull addas, fe ddyfeisiais un. Ystyriais sut oedd unigrwydd y cyfnod clo yn effeithio ar fy nghyflwr meddyliol a’u rhestru o’r negatif i’r niwtral i’r positif. Dyma fi hefyd yn nodi sut oeddwn i’n ymateb i’r cyflyrau yma i leddfu, setlo neu rannu. Gosodwyd yr argymhellion yma dan y penawdau perthnasol fel arweiniad i’r cyfranogwyr. Pan fyddwch chi mewn tymer negatif, mae weithiau’n anodd cofio sut i ymddwyn a beth i wneud, ac roedd yr argymhellion yma i fod yn gefnogaeth gynnil.

Yn y diwedd, er mwyn adlewyrchu’r unigrwydd yn fy mwyd a’r effaith negyddol arnaf, penderfynais fod angen i’r dull mesur gael ei baentio a’i ysgrifennu â llaw, i roi ymdeimlad o berthyn. Fy syniad cyntaf oedd creu mesurydd llinol, ond symudais at y cylch yn fuan iawn. Mae cylch yn cyfleu symudiad a pharhad. Mae hefyd yn fy atgoffa o’r olwyn liw, a dyma felly ddefnyddio sbectrwm o liwiau i gyfleu sbectrwm o deimladau.

Torrwch allan a’i binio i ganol y Mesurydd Symudwch y saeth i ddangos eich teimladau. tynnwch lun a’i anfon aton ni.

Dyma ni’n gofyn i’r cyfranogwyr ystyried eu teimladau cyn ac ar ôl cymryd rhan yn y gweithgareddau creadigol a gynlluniwyd ar eu cyfer. Dyma nhw’n gosod y mesurydd, a chymryd llun ar eu ffôn bob dydd drwy gydol y project, cyn e-bostio lluniau’r mesurydd cyn ac ar ôl y gweithgaredd (ynghyd â llun o’u creadigaeth gelf wrth gwrs).

Pan dderbyniwyd y canlyniadau, darparodd y Mesurydd Lles ddata meintiol nad oeddwn i wedi ei ragweld. Roedd yn dangos faint o bobl oedd yn cymryd rhan, a phryd; a faint o gyfranogwyr wnaeth wella/aros yr un peth/waethygu ar ôl y gweithgaredd creadigol. Roedd y sgôr lles (cyflwr y cyfranogwyr cyn ac wedi’r gweithgaredd) yn rhoi gwybodaeth ansoddol ar effaith cymryd rhan yn y gweithgaredd, ond ni allai ddweud pam. Ceisiwyd ysgogi esboniad o’r ‘pam’ mewn cyfarfod a sgwrs grŵp derfynol dros Zoom, oedd yn rhoi darlun cliriach o’r lluniau a dderbyniwyd dros e-bost. Y canfyddiad cyffredinol oedd bod gweithgaredd creadigol dyddiol o daith VR drwy dirlun naturiol yn gwella lles.

Ers y project, rydw i wedi rhannu’r Mesurydd Lles gyda gweddill y sector, ac mae wedi cael ei weld ar draws y byd. Cafodd ei ddisgrifio gan Nicky Goulder, Prifweithredwr Create fel gwaith celf o’r galon. Mae ar gael i’w ddefnyddio a’i addasu ar alw. (drmariahayes@gmail.com )

Yn ôl yr ymateb i fy mhaentiadau ar Twitter a Facebook, mae gweld gweithiau celf yn llesol i ni hefyd. Mae ymchwil ar y delweddau gorau ar gyfer ysbytai yn cadarnhau taw tirluniau a delweddau byd natur sy’n fwyaf llesol i iechyd cleifion. Mae Lankston, Cusack, Freemantle ac Isles yn eu traethawd ar Visual Art in Hospitals yn datgan:

Lliwiau sy’n ennyn pleser heb gynhyrchfu sydd fwyaf tebygol o greu teimlad o lonyddwch, tra gall lliwiau sy’n ennyn anfodlonrwydd a llawer o gynnwrf achosi gorbryder. Mae’r ffaith bod cleifion yn aml yn ffafrio tirluniau a golygfeydd byd natur yn cydweld â’r canfyddiad hyn, a gyda theoriau seicoleg esblygiad sy’n rhagweld y byddwn yn ennyn ymateb emosiynol positif at amgylchedd naturiol sy’n ffynnu. Yn groes i farn sy’n bodoli ymhlith rhai artistiaid cyfoes, ni fydd cleifion sy’n sal neu’n poeni am eu hichyd yn cael cysur mewn celf haniaethol, gan ffafrio diddanwch positif a thawelwch lliwiau gwyrdd a glas irluniau a golygfeydd byd natur.

Gall edrych ar y byd o’n cwmpas, yn enwedig byd natur, leddfu a helpu i ni anghofio ofnau mewnol ac esmwytho teimladau cythryblus.

Rydym yn eich gwahodd chi i brofi’r teimlad hwn eich hun drwy gymryd rhan mewn project gweledol byr, gan ddefnyddio fersiwn ddigidol o’r Mesurydd Lles i asesu eich teimladau cyn, ac ar ôl cymryd rhan. Byddwch chi’n gweld chwe tirlun a ddewiswyd gennyf i o gasgliad Amgueddfa Cymru - gweithiau y bydda i’n dychwelyd atyn nhw dro ar ôl tro i weld beth allaf ei ddysgu, ac i ddychwelyd at y teimladau llesol y maent yn eu hennyn ynof. Wrth edrych ar gelf rydyn ni’n dechrau sgwrs - sgwrs rhyngom ni a'n profiadau â gwrthrych sy’n cyfleu egni’r broses a ddefnyddiodd yr artist i’w greu. Rhowch amser i’ch hun i deimlo’r cyfnewid egni hwn, ac ystyried sut mae’n eich cyffwrdd.

Wrth edrych ar gelf byddwn ni’n aml yn gofyn, ‘Yw e’n dda?’
Yn y project hwn rydyn ni am i chi ofyn, ‘Yw edrych ar hwn yn dda i fi?’

Rhestr Delweddau

  1. Graham Sutherland - Aber gyda Chreigiau
  2. Roland Vivian Pitchforth - Cwm Glaslyn
  3. John Piper – Tardddiad Afon Dyfi
  4. Mary Lloyd Jones – Dyffryn Nantlle Llais Nantlle
  5. Peter Prendergast – Ger Tŵr Ellin, Ynys Môn.
  6. Catrin Webster – Dienw

Share


More like this