CYNFAS

Grug Muse
25 Gorffennaf 2022

Breuddwydio mewn gerddi

Grug Muse

25 Gorffennaf 2022 | Minute read

1.

2021. Yn ystod y cyfnod clo, dwi’n cael yr un freuddwyd bob nos, sawl noson ar y tro. Yn y freuddwyd hon, dwi mewn gardd, ac mae golau’r haul yn tywynnu trwy dyfiant trwchus. Nid fy ngardd i ydi hi, ond gardd fy ffrind, sydd, yn y freuddwyd hon, yn arddwr. Ryda ni’n crwydro’r ardd, ac mae o’n dod a gwydraid o ddŵr i mi, fel petawn i’n un arall o’r planhigion.

Pan dwi’n deffro mae fel petai yna ysbryd wedi bod yn yr ystafell. Dwi heb weld fy ffrindiau ers misoedd, dim ond ar y group chat, neu ambell gip-olwg trwy ffenest o’u bywydau mewn lluniau ar instagram: cacen maen nhw wedi ei choginio, llun enfys, pot blodyn ar silff ffenest heulog.

✻ ✻ ✻

Wrth bori trwy luniau ‘Casglu Covid: Cymru 2020’ yr Amgueddfa Genedlaethol, mae rhywun yn sylwi fod sawl un o’r lluniau wedi eu tynnu mewn gerddi. Fel mewn llawer o’r lluniau eraill yn y casgliad, does dim pobl yn y lluniau hyn. Dim ond eu presenoldeb – gerddi ydyn nhw wedi’r cyfan, gofodau wedi eu creu a’u cynllunio gan ddwylo pobl.

Dwi’n dod o hyd i ddau lun yn benodol sy’n fy atgoffa o fy mreuddwyd. Y mae ôl llafur gofalus ar yr ardd yn y llun cyntaf, waliau wedi eu codi, potiau wedi llenwi a phridd, planhigion wedi eu plannu. Ond mae ôl gorffwys hefyd – mae mainc wedi ei gosod at y perwyl hwnnw, a chwyn yn tyfu yn y gwely.

Yn y llall, mae llain o ofod gwyrdd wedi ei droi yn ofod defosiynol, gyda cherrig paentiedig wedi eu gadael yn offrymau wrth droed coeden, a chalonnau lliwgar yn hongian o’u brigau.

Dwi’n dychmygu’r bobl sy’n treulio amser yn y gofodau gwyrdd yma, yn gofalu ac yn gorffwys. Beth oedd yma pan ddechreuon nhw? Llain o goncrid? Cornel anghofiedig? Beth oedd yr ysgogiad i fynd ati i greu rhywbeth hardd? Sut ddewiswyd y planhigion? A oedden nhw wedi dychmygu’r cyfanwaith, neu a ddatblygodd y cwbl yn organig? Ydi eu gweledigaeth yn orffenedig, neu ydyn nhw dal yn gweld y gwaith sydd ar ôl i’w wneud, yn dal i ddychmygu be allai’r gornel fechan fod, dim ond o gael ‘gwell gwanwyn flwyddyn nesa’, neu ‘bnawn o chwynnu’ neu ‘un planhigyn arall’.

Pan dwi’n deffro mae fel petai yna ysbryd wedi bod yn yr ystafell.

✻ ✻ ✻

Peth arall ddigwyddodd yn ystod y clo, oedd mod i wedi cysgu, lot. Mwy na’r arfer. Roedd amser mwya sydyn yn fwy o ferbwll nag o linell. Rywbeth llugoer disymud, dim llif i’r diwrnod na dim i dy dynnu di yn dy flaen trwyddo fo. Merddwr.

Cefais fy hun yn deffro’n hwyrach, yn mynd i’r gwely’n gynt, yn syrthio i gysgu yn y pnawniau. Un prynhawn, dwi’n syrthio i gysgu o dan goeden yn yr ardd. Pan dwi’n deffro, mae’r canghennau yn llawn sŵn. Mae Titw Tomos yn y coed, a tylwyth o gywion bach tew yn ei dilyn yn drwsgl o frigyn i frigyn. Mae’r Titw yn neidio rhwng y bocyffion yn crafu am bryfetach yn y rhisgyl, gan fwydo ei chywion fesul dipyn, wrth iddyn nhw brofi nerth eu hadenydd yn betrus.

Dydyn nhw’n cymryd dim sylw ohona i, ac mae’r fam yn hedfan mor isel heibio fy nhrwyn i fel mod i’n teimlo chwa o aer o’i hadenydd. Dwi’n dechrau crio yn hyll a choch, fel balwn llawn yn gollwng ei haer i gyd. Dwi’n teimlo’n unig, unig, iawn.

✻ ✻ ✻

Yn y clo, fel ymhob cyfnod arall, daeth gerddi yn ofod i fyfyrio, addoli, ymarfer corff; yn ofod defod a iachâd. I’r rhai oedd â mynediad atyn nhw, wrth gwrs. Ym Mhrydain, does gan 1 o bob 8 cartref ddim mynediad i ardd. Mae’r ffigwr yn llawer uwch i bobl o liw, ac i bobl Ddu yn benodol. Yn Lloegr, dim ond tua 60% o bobl Ddu sydd â gardd, i gymharu â bron i 90% o bobl wyn. Yng Nghaerdydd, mae 54% o gartrefi Butetown heb ardd, i gymharu efo Pontcana lle mae ond 8% sy’n ddi-ardd.

Mae’r argyfwng tai hefyd yn argyfwng gerddi, hefyd yn argyfwng gofod gwyrdd, hefyd yn argyfwng hinsawdd a dosbarth a chyfalafiaeth. Mae’n argyfwng rhyngwladol sy’n ymgorffori ei hun mewn ffordd wahanol ymhob cymuned. Yng ngogledd a gorllewin Cymru mae’n cymryd ffurf argyfwng tai haf ac Air Bnb, hefyd argyfwng iaith. Yng Nghaerdydd mae’n argyfwng boneddigeiddio a gor- neu gam- ddatblygu, hefyd yn argyfwng hiliaeth a goruchafiaeth gwyn.

Pwy sy’n medru fforddio i freuddwydio mewn gerddi?

✻ ✻ ✻

Wrth feddwl am y gerddi-covid, y ffordd yr oedd cymaint o bobl, rhai am y tro cyntaf, yn troi at blanhigion a gerddi yn ystod y clo, dwi’n meddwl am Everybody Needs Beauty, llyfr gan Samantha Walton. Yn y llyfr hwn mae hi’n ystyried yr hyn sy’n cael ei ddisgrifio fel ‘nature cure’, neu’r syniad fod natur yn iacháu. Mae’n teimlo’n amlwg – wrth gwrs fod dod i gyswllt efo natur yn beth iach, ac yn dod a chysur. Onid ydi ymateb pobl yn y cyfnod clo yn dystiolaeth ddiamheuol o hynny, fod greddf cymaint ohonom ni wedi ein gyrru ni at erddi a gofodau gwyrdd mewn cyfnod o argyfwng, i gyfryngu efo’r byd naturiol?

Mae’n gysyniad ymddangosiadol syml ac amlwg, ond mae Walton yn cymhlethu’r syniad trwy holi i ddechrau holi beth yw natur, ac yna’r cwestiynau cysylltiedig: pwy sydd â mynediad at ‘natur’ a ‘gofod gwyrdd’, pwy sy’n gwerthu a marchnata ac elwa. Mae Walton yn ceisio cwestiynu rhai o’n rhagdybiaethau am beth yw natur, lle mae o i’w gael, a beth mae dibynnu’n ddigwestiwn ar rym ‘natur’ i iacháu yn ei olygu yn ymarferol i’n gwasanaethau iechyd. Fel mae Walton yn nodi, ‘plants aren’t substitutes for a fairer society’ (t. 122). Ond i’r rhai sydd â mynediad at ardd, mae’r mynediad hwnnw at ofod gwyrdd yn cynnig gofod therapiwtig lle gall tasgau syml, ailadroddus fod yn ffurf o fyfyrio a meddwlgarwch; mae’n cynnig cyfle i gysylltu efo’r byd mwy-na-dynol; mae’n cynnig teimlad o bwrpas; ac ar ei symlaf mae’n fynediad at ofod hardd, ac weithiau, mae hynny’n ddigon.

Greddf gysylltiedig sydd o bosib yn gyfrifol am y twf ym mhoblogrwydd planhigion tai, ymysg y rheini efo llai o fynediad at ofod gwyrdd y tu allan yn enwedig. Mae’n ystrydeb bellach i sôn am y genhedlaeth ôl-1980, eu hanallu i brynu tai, a’u hoffter o afocados. Ond mae ’na wirionedd i’r ystrydeb, ac nid yn an-ghysylltiedig ydi’r ffaith mai dyma’r genhedlaeth sy’n cael ei chysylltu fwyaf efo twf y planhigyn tŷ. Ac mae’n debyg fod eu poblogrwydd wedi tyfu eto yn y pandemig, gyda phawb yn gaeth i’w cartrefi. Mae’r obsesiwn yn un hawdd i’w deall. Yr angen am rywbeth hardd, rywbeth y tu allan i’r hunan, rhywbeth i gyfeirio ein hegni cariadus tuag ato, rhywbeth i ni ofalu amdano, i fynd a’r sylw, rhywbeth i roi’r argraff o sefydlogrwydd, ond all hefyd gael ei bacio yn hawdd i mewn i gefn fan neu fŵt car, pan ddaw’r angen i symud ymlaen, eto.

Mae’r freuddwyd yn un mor hawdd i’w deall, ac mae cwmnïau marchnata, canolfannau garddio a dylanwadwyr ar lein wedi bod yn llwyddiannus yn co-optio y freuddwyd ar gyfer buddiannau’r farchnad. Ac nid ar chwarae bach ychwaith. Mae’r diwydiant planhigion tŷ yn ddiwydiant gwerth biliynau sy’n parhau i dyfu. Maen nhw i gyd yn gwerthu eu fersiynau eu hunain o freuddwyd-yr-ardd, yn rhoi mynegiant i’r ddelfryd sy’n cael ei chreu mewn galerïau o luniau curadedig. ‘Gyda’r casgliad hwn o blanhigion trofannol, gelli di hefyd gael dannedd gwynnach, gwella dy ddeiat; bydd mwy o haul rhywsut yn dod trwy ffenest dy fflat fach dywyll, mi fyddi di’n llwyddiannus yn dy waith a mi fydd gen ti ffrindiau. Y cwbl am bris rhesymol, a free postage...’

Ym myd y dylanwadwyr a’r hysbysebwyr, nid gwerthu pothos neu blanhigyn neidr maen nhw, ond gwerthu breuddwyd, a hwnnw wedi clymu’n sownd at blanhigyn (a chwyddo’i bris). Gall y planhigyn roi’r argraff fod y prynwr yn dynesu at y freuddwyd honno, heb wneud unrhywbeth i fynd i’r afael a’r grymoedd a’r systemau sy’n cadw y lliaws rhag gwireddu’r ddelfryd o gartrefi diogel a sefydlog. Dydi’r ardd ddim yn medru cymryd lle y gwasanaeth iechyd, na marchnad dai gyfiawn. A, fel gyda’r ‘nature-cure’ yn fwy eang, mae’n medru cael ei droi yn gynnyrch cyfalafol taclus, wedi ei becynnu a’i frandio a’i brisio:

 

‘When the nature cure is repackaged by business or hoarded as a charm for the privileged, its radical potential is dimmed, but perhaps not totally lost. The problem is, these wellness solutions tend to treat nature as a tool, instead of thinking about how eco-recovery might work both ways. But mutual care is intrinsic to the nature cure. Why shouldn’t we want to care for the forests, mountains and wetlands that we lobe, to understand their inner workings so that we can tend and protect them?’

(t. 266)

 

Sut fyddai gardd, neu ddull o arddio gwahanol yn edrych? Breuddwyd-mewn-gerddi efo’r potensial radical i wyrdroi systemau o orthrwm?

Mae fy ffrind yn arddwr. Ryda ni’n crwydro’r ardd, ac mae o’n dod a gwydraid o ddŵr i mi, fel petawn i’n un arall o’r planhigion.

2.

2022. Ebrill garw arall, a dwi’n rhestru planhigion i gael fy hun i gysgu. Forsythia, Clematis, Calendula, Comffri, Pys Per, Lupins. Yn fy mreuddwydion, mae fy nwylo yn bridd drostynt, a dwi’n sefyll wrth fwrdd bychan yng nghanol yr ardd. Mae’r bwrdd wedi gorchuddio mewn petalau pinc ac oren a glas. O gwmpas yr ardd mae fy ffrindiau yn eistedd mewn corneli cysgodol, yn sgwrsio neu orffwys. Fi yw’r garddwr.

Pan dwi’n deffro mae storm arall yn creu chwiban o gorn y simne ac yn siglo gwydr y ffenestri.

✻ ✻ ✻

Mae amser yr ardd yn amser cylchol. Mae’n benthyg ei hun i freuddwydio a delfrydu, oherwydd does yna byth llinell derfyn. Fydd y freuddwyd fyth yn cael ei gwireddu, ond does dim rhaid iddi ddod i ben ychwaith, ac mae hi’n cael ei chreu o hyd trwy’r tymhorau, yn fythol newidiol.

Dwi’n meddwl, i mi, mai dyma o ble mae’r pleser o arddio yn dod. Nid o’r ardd ‘derfynol’, y gwaith gorffenedig, oherwydd does byth pwynt lle mae gardd yn ‘orffenedig’. Mae hi’n cael ei chreu o hyd, ond hefyd, mae hi’n bodoli mewn gwahanol ffurfiau trwy’r amser. Mae’r ardd yn mis Chwefror yn bodoli, fel potiau llawn chwyn a phridd gwlyb. Ond wrth drin y pridd a phlannu hadau mewn ffenestri heulog mae ail fersiwn o’r ardd yn cael ei chreu, sy’n fwy byw weithiau yn y dychymyg na’r ardd-yn-y-cnawd, gardd fydd efallai fyth yn cael ei gwireddu yn union fel y mae hi’n bod yn y dychymyg, ond eto’n wir rywsut.

Dwi eisiau dod o hyd i ail sy’n disgrifio y wastad-yn-dyfod, aml-fersiynrwydd, byth-yn-darfodigrwydd yma. Y dehorolrwydd; deilliadaeth; bythol-ddyfodiant?

✻ ✻ ✻

Mae gen i annwyd felly dwi’n mynd i’r co-op (yn fy mwgwd) am y math o feddyginiaeth nad ydi fy ngardd yn medru ei gynnig: ibuprofen a lucozade (mae ’na sawl math o feddyginiaeth werin, a dwi mor grediniol yng ngrym y lucozade a grapes oedd nain yn rhoi ei holl ffydd ynddyn nhw ag ydw i yng ngrym yr ibuprofen a syrop tagu).

Ar y ffordd yno, dwi’n pasio silff y plant swap, silff wedi ei chodi o flaen tŷ rhywun yn y dre, lle all unrhyw un adael egin-blanhigion, neu hadau, neu gymryd rhywbeth oddi ar y silff.

Y pnawn hwnnw dwi’n dod yn ôl efo potiau bach o’r pabi gwyn sydd gen i ar ôl, nad oes gen i le ar eu cyfer nhw. Erbyn y bore wedyn, mae tri o’r pump wedi diflannu, ac mae dau ddwsin o domatos ifanc wedi ymddangos. Dwi’n cymryd un efo label ‘rosella’ ac yn ei blannu ymlaen i bot mwy.

Dwi’n astudio’r llawysgrifen ar y label, yn ceisio dychmygu pwy ydi’r person fu’n plannu’r hadau, yn meithrin y planhigyn ifanc, cyn ei basio yn rhodd di-enw i ddieithryn ar y stryd. Dwi’n teimlo rhyw gysylltiad rhyfedd er nad ydw i’n gwybod pwy oedden nhw. Dwi’n dychmygu pwy gymerodd y planhigion pabi, pwy sy’n gofalu amdanyn nhw rŵan.

✻ ✻ ✻

Ychydig ddyddiau wedyn dwi’n mynd am dro i drio difa’r annwyd efo awyr iach. Mae’n fore gwlyb, mae hi newydd stopio bwrw, a dwi’n crwydro i gyfeiriad yr ardd gymunedol. Nid un gardd gymunedol ydi hi mewn gwirionedd, ond cyfres o safleoedd wedi ei datganoli ar draws y dre. Dwi’n cyrraedd yr ardd berlysiau i ddechrau, ac yn penlinio i ddarllen y labeli wrth y planhigion: oregano, teim, lafant. Gan edrych o fy nghwmpas, dwi’n cymryd sbrigyn neu ddau o’r Saets, yn teimlo’n euog rhywsut er fod yr ardd yno i bawb elwa ohoni. Ond mae o’n dal i deimlo fel dwyn. Dwi’n mynd ymlaen at yr ardd lysiau, gwlâu llawn gwyrddni, planhigion cyfarwydd a diarth. Mae’r chard pinc a melyn wedi tyfu’n anferth, ac wrth ddechrau teimlo’n fwy hy, dwi’n cymryd llond llaw o ddeiliach, ac ambell ddyrnaid o borpin efo’i ddail llederog, crwn. Y peth olaf ydw i’n ei gymryd ydi sbrigyn neu ddau o falm lemon, cyn dianc adre efo fy ysbail. Dwi’n ychwanegu at yr helfa efo ambell ddeilen o nasturtum pupurog o fy ngardd fy hun, a gwaelod bag o ddail anhysbys sy’n cuddio yn yr oergell, ac yn paratoi plataid o salad gwyrdd, sy’n teimlo fel yr haf ar blât. Dwi’n gwneud tê efo’r perlysiau, ac yn ychwanegu llwyed o fêl, ac yn teimlo gofal y tyfwyr anhysbys fu’n gofalu am y planhigion yma, cyn eu cynnig yn rhodd i bwy bynnag oedd eu hangen neu eu heisiau.

Mae egwyddor yr ardd gymunedol yn un fregus. Paid cymryd mwy nag wyt ti ei angen, gad ddigon i’r planhigyn ddal allu cynhyrchu a goroesi, ac i bobl eraill fedru mwynhau ffrwyth yr ardd hefyd. Ymuna fewn yn y gwaith os medri hefyd, ond does dim rhaid.

Mor wahanol i’r hyn welwyd ar ddechrau’r pandemig, pan arweiniodd yr ofn a’r panig at y rhai a oedd yn medru’n gor-brynu a phentyrru bagiau o reis neu basta neu bapur toiled, gan adael y gweddill heb ddim. A hynny pan yr oedd, mewn gwirionedd, ddigon i bawb petai pawb yn cymryd beth oedd ei angen a gadael y gweddill. Prinder dychmygol yn achosi prinder go iawn.

Mae’r ardd gymunedol yn herio rhagdybiaethau sylfaenol am natur ddynol a grym y farchnad, ac yn awgrymu fod ffyrdd o fod a thyfu a gofalu sydd ddim yn seiliedig ar reibio, a chasglu gormodedd. Ffyrdd yn seiliedig nid ar ofni prinder, ond ar ffydd mewn bythol-ddyfodrwydd.

✻ ✻ ✻

Yn y freuddwyd hon, dwi mewn gardd, ac mae golau’r haul yn tywynnu trwy dyfiant trwchus.

Sut wyt ti’n cadw gardd ar erchwyn y dibyn? Mae sawl un wedi gwneud. Dwi’n meddwl am Derek Jarman, a’i ardd yn Dungeness, sy’n cael ei chroniclo yn Modern Nature. Mae Jarman yn cychwyn gweithio ar yr ardd yn fuan wedi cael diagnosis ei fod yn bositif efo HIV. Mae Prospect Cottage a’i gardd yn fwthyn ar lan y môr, o dan gysgod gorsaf niwclear Dungeness. Mae Jarman yn garddio yng ngwyneb trychineb bersonol, trychineb i’w gymuned, a thrychineb i’r blaned. Mae gardd Jarman, a’r dyddiadur y bu’n cadw wrth greu yr ardd, yn ddau ofod cymhleth. Mae’r ardd yn ddihangfa ar un llaw, ac eto mae cysgod yr orsaf niwclear a galwadau ffon efo ffrindiau ar wlâu angau yn clymu Jarman at y trychinebau. Ac eto mae’n parhau rhywsut yn ofod breuddwydiol. Mae hudoliaeth yn y ffaith ei fod wedi consurio gardd o dan y fath amodau daearyddol, ond hefyd yn y modd mae’r dyddiadur yn llithro rhwng breuddwyd ac atgof a manylion garddwriaethol.

Yn ôl yn archif yr Amgueddfa, dwi’n dod o hyd i ran o flyer o brotestiadau Comin Greenham. Yng nghanol y poster du a gwyn mae llun o ddant y llew, gyda’r geiriau ‘Let love be a flower in your hand, and we shall plant a garden at greenham’

Sefydlwyd gwersyll heddwch comin Greenham yn 1981, gan y grŵp ‘Women for life on earth’, mudiad o Gymru. Pwrpas y gwersyll oedd protestio yn erbyn y taflegrau niwclear oedd yn cael eu cadw yng ngwersyll milwrol Greenham gan y fyddin. Arhosodd y merched yn Greenham tan y flwyddyn 2000, ac fel mae’r hysbyseb yn ei ragweld, plannwyd gardd o fath yn Greenham yn y pendraw, sef gardd goffa i goffáu’r gwersyll.

Mae’r ardd, fel symbol ar yr hysbyseb, yn wrthbwynt amlwg i ddinistr taflegrau niwclear. Yn lle lladd, tyfu; yn lle ymladd, gofalu. Mae hefyd yma wedi ei rhyweddu. Roedd y Gwersyll Heddwch yn enwog am fod yn ofod, ac yn brostest fenywaidd, ac roedd statws llawer o’r merched fel mamau a neiniau yn cael ei arfogi’n benodol yn y frwydr yn erbyn arfau niwclear. Roedd y merched yn ymfalchïo mewn rolau fel ‘gofalwyr’, rôl sydd yn draddodiadol wedi ei rhyweddu fel rôl fenywaidd, a thrwy hynny ei ddibrisio o fewn cyfundrefn batriarchaidd i fod yn eilradd i rolau ‘gwrywaidd’ fel rôl milwr. Trwy fynnu fod rôl y gofalwr yr un mor werthfawr, os nad pwysicach na rôl y milwr, roedd y merched yn gwyrdroi hierarchaeth batriarchaidd, tra’n agor rôl y gofalwr allan i bawb sy’n uniaethu fel ‘gofalwr’.

Mae’r hysbyseb sy’n galw am godi gardd yn Greenham yn defnyddio llun o chwynnyn i gynrychioli’r ardd, gan gonsurio gardd wyllt, an-lywodraethadwy. Gardd fel chwyldro.

✻ ✻ ✻

Yn fy mreuddwyd, ryda ni i gyd yn cael cysgu mewn mannau gwyrddion, diogel. Ryda ni’n medru teimlo’r haul ar ein croen, ac awel ysgafn, a gorwedd mewn gweiriach tal, yn gwylio pryfetach yn dringo’r coesynnau hir, a cherdded dros ein breichiau, yn mordwyo coedwigoedd blew ein breichiau. Mae gennym ni amser i bendwmpian a breuddwydio. Mae gennym ni gartrefi diogel i ddychwelyd iddyn nhw ac amser i wneud dim byd. Mae gennym ni amser ar gyfer gofal- o’n gilydd, o’n hunain, o’r dynol a’r rhai sy’n fwy na hynny hefyd.

Cyfeiriadau


Share


More like this