Ziggurat II
TILSON, Joe
Mae'r adeiladwaith haniaethol lliwgar hwn, a wnaed i ymdebygu i flociau chwarae plant, yn gynrychiolaeth o'r temlau Mesopotamiaidd hynafol o'r enw Ziggurat. Byddai’r Ziggurats yn cael eu creu fel preswylfa i'r duwiau a dim ond offeiriaid oedd yn cael mynd i mewn iddyn nhw. Roedd y ffurfiad grisiog yn darparu mynediad o'r byd hwn i'r byd ysbrydol.
Mae defnydd Joe Tilson o ddotiau yn rhoi ymdeimlad o wead, ond maen nhw hefyd yn cyfeirio at dechneg celf Bop sy’n deillio o’r rhai a ddefnyddir mewn argraffiadau lliw. Mae'r llythrennau bras yn ychwanegu ymddangosiad tri dimensiwn i elfennau dau ddimensiwn y paentiad.
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.
Datganiad hawlfraint wedi'i ddarparu gan Amgueddfa Cymru
Mwy fel hyn
Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
Rie, Lucie
© Ystâd the Ystâd yr artist/Ymddiriedolaeth Derek Williams/Amgueddfa Cymru

Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
ANDREWS, Michael
© Ystâd Michael Andrews/Tate Images/Amgueddfa Cymru

Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru