CYNFAS

Ophelia Dos Santos
28 Tachwedd 2022

Coflaid Cynnes

Ophelia Dos Santos

28 Tachwedd 2022 | Minute read

Cyflwyniad

Ophelia ydw i! Dylunydd tecstilau ac addysgwraig o Gymru sy’n gweithio yng Nghaerdydd. Drwy fy mhractis rydw i’n creu deunydd addysgiadol i lywio ac annog trafodaethau am gyfiawnder a chydraddoldeb hinsawdd, gor-ddefnydd, gwastraff a seicoleg ffasiwn. Mae fy ngwaith tecstilau hefyd yn atgof gweledol o newid agwedd ffasiwn at gynaliadwyedd, gan ysbrydoli eraill i roi ail gyfle i hen ddillad.

Wrth gydweithio â chymunedau bydda i’n canolbwyntio ar rannu sgiliau fel arf pwerus i drafod cymhlethdodau newid hinsawdd, gan annog pobl i gymryd rhan a gweithredu. Drwy arwain gweithdai gydag elusennau a sefydliadu lleol rydw i’n dangos sut all technegau brodwaith syml gael eu defnyddio i drwsio ac adfywio dillad. Mae dysgu gwnïo yn weithred bwrpasol all ddod â phobl o bob oed a chefndiroedd diwylliannol ac economaidd ynghŷd, gan feithrin hyder a sgiliau bywyd ymarferol.

Rydw i’n dal i ddatblygu dulliau dysgu mwy hygyrch, ac yn cydnabod bod yn rhaid i weithredu dros yr hinsawdd roi llais i grwpiau wedi’u hymyleiddio – pobloedd Ddu, Brown a Brodorol, pobl ag anableddau a chymunedau LHDTQ+.

Coflaid Cynnes

Cwilt clytwaith, 100cm × 50cm     
Gobeithio y bydd y cwilt hwn yn atgoffa pobl o goflaid cynnes – fel y gall cysur blanced, cwtsh cariadus, neu gefnogaeth cymuned ddod â gobaith yn y tywyllwch duaf. Crewyd Coflaid Cynnes gyda thechnegau gwnïo traddodiadol fel appliqué a brodio llaw mewn dyluniad modern. Ailddychmygwyd, a rhoddwyd bywyd newydd i hen decstilau coll.


Share


More like this