CYNFAS

Pwll Lee Gardens, Penrhiwceibr
7 Hydref 2024

Ein Presennol

Pwll Lee Gardens, Penrhiwceibr

7 Hydref 2024 | Minute read

Uchafbwynt project Ail-ddweud Stori’r Cymoedd oedd y Llwybr Celf o amgylch Penrhiwceibr. Fe alluogodd inni ddathlu llefydd penodol o fewn ein pentref, wedi’i ysbrydoli gan weithiau celf o’r Casgliad Cenedlaethol yn Amgueddfa Cymru.

Llwybr Celf Penrhiwceibr © Eleanor Whiteman

Llwybr Celf Penrhiwceibr © Eleanor Whiteman

Canolfan Groeso Penrhiwceibr

Canolfan Groeso Penrhiwceibr

Adeiladwyd Canolfan Groeso Penrhiwceibr, a elwir yn wreiddiol Canolfan Henoed Penrhiwceibr, ym 1985. Cafodd ei redeg yn llwyddiannus gan Gymdeithas Les Henoed Penrhiwceibr tan i’r brydles ildio ym mis Rhagfyr 2023. Ar yr un pryd, arwyddwyd prydles newydd gan Bwyllgor Pwll Lee Gardens a ddilynwyd gan enw newydd. Mae nifer o weithgareddau’n cael eu cynnal yng Nghanolfan Groeso Penrhiwceibr sy’n canolbwyntio ar leihau effaith tlodi, unigrwydd ac unigedd. Ym mis Ionawr 2024, gyda nawdd gan Raglen Ffyniant Bro y Gronfa Ffyniant Gyffredin ac Ymddiriedolaeth Adfywio Meysydd Glo yn ogystal â chyfraniadau hael Cymdeithas Les Henoed Penrhiwceibr, Trivallis a Grŵp Cartrefi Cymunedol Cynon Taf, dechreuwyd ar y gwaith atgyweirio ac adnewyddu. Wrth ail-gynllunio’r adeilad roedd modd creu stordai angenrheidiol ar ein cyfer. Roedd cynaliadwyedd a newid hinsawdd yn uchel ar yr agenda wrth i’r gwaith ddigwydd ac mae nifer o newidiadau arbed egni wedi’u gwneud er mwyn lleihau ôl troed carbon yr adeilad.

Cofeb Ryfel Penrhiwceibr a Matthewstown

Cofeb Ryfel Penrhiwceibr a Matthewstown

Mae’r gofeb odidog hon, gyda phedair wyneb i’r cloc, yn sefyll yng nghanol Penrhiwceibr er cof am y 146 Arwr gollodd eu bywydau o Benrhiwceibr a Matthewstown a ymladdodd yn y Rhyfel Mawr er mwyn y Brenin a Phrydain, 1914-1918. Cafodd ei chodi o ganlyniad i danysgrifiadau cyhoeddus a’i dadorchuddio ar ddydd Iau, 21ain o Hydref, 1926. Llywydd Pwyllgor Cofeb Ryfel Penrhiwceibr a Matthewstown oedd G.H. Hall Ysw., M.P., Ynad Heddwch. Cafodd y dyluniad ei gynhyrchu gan yr Anrhydeddus Bensaer W.H. Williams Ysw. o Aberpennar. Y contractwr oedd J. Rossiter Ysw. o Gaerffili.

Mae’r Gyfriflen, gafodd ei chynhyrchu ar 21ain o Orffennaf 1927 yn rhestru Derbyniadau a Gwariant fel £1160 14swllt 7c. Mae’r ddogfen yn rhestru’r holl roddion a dderbyniwyd. Yma fe welir dogfen y Seremoni Agoriadol.

Eglwys Santes Gwenffrewi

Eglwys Santes Gwenffrewi, Penrhiwceibr

Ym 1870 cynhaliwyd gwasanaethau eglwys mewn bwthyn ar Ffordd Penrhiwceibr gyda chynulleidfa o 8 yn unig, er nad oedd sôn ynghylch Penrhiwceibr yn y cyfrifiad ym 1871. Ym 1881 rhoddwyd tir a £300 tuag at adeiladu Eglwys Santes Gwenffrewi gan Uwch-gapten Vaughan Hanning Vaughn Lee D.L., M.P. (1836-1882). Ar Fawrth y 29ain 1883, gosodwyd carreg sylfaen gofebol gan y Gwir Anrhydeddus Iarlles Aberdâr. Yn dilyn cyfnod o 9 mis o adeiladu, agorwyd yr eglwys ar gyfer addoli. Erbyn y cyfnod hwn, roedd y boblogaeth wedi tyfu at 4000 preswylydd, diolch i Mr John Glasbrook am suddo Pwll Glo Penrikyber ym 1872. Mae nifer o newidiadau wedi digwydd o fewn yr eglwys dros y blynyddoedd; ym 1888 adeiladwyd estyniad ar yr ochr ddeheuol i alluogi datblygiad Capel Mair, y Festri a Siambr yr Organ.

Ym 1911 cafwyd estyniad i’r gorllewin i gynyddu nifer y seddi i 477. Canslwyd y cynlluniau pellach i estynnu o ganlyniad i’r Rhyfel Byd Cyntaf, 1914-1918.

Rhestr ddarllen

  • Churches of the Cynon Valley, Alan Vernon Jones, M.R.I.C.S. 2012 ISBN 978 0 9517081 1 8
  • Cynon Valley History Society, HANES, Issue Number 76, Autumn 2016

Capel Carmel, Penrhiwceibr

1881 – 2024

Capel Carmel, Penrhiwceibr

Capel yr Annibynwyr oedd Carmel, a gafodd ei adeiladu ar gyfer y cynnydd mawr o siaradwyr Cymraeg ddaeth i Benrhiwceibr i weithio yn y pwll glo ar ddiwedd y 19eg ganrif. Roedd cyfartaledd o rhwng 300 – 400 o aelodau’n flynyddol yn ystod y blynyddoedd cynnar hynny.

Mae’n adeilad rhestredig Gradd 2 gyda’r wyneb allanol wedi’i dylunio’n syml ond addurno mewnol arbennig. Mae’r organ bib fawreddog, pulpud wedi’i gerfio o bren, galeri pedair ochr a’r gosodiadau cain pren eraill gafodd eu rhestru.

Drwy gydol ei oes, gafodd ei ddefnyddio nid yn unig ar gyfer gwasanaethau eglwysig ond ar gyfer Cymanfaoedd Canu a chyngherddau. Gellir dweud bod cerddoriaeth yn ymdreiddio’i waliau gydag anthemau ac emynau enwog Cymru hyd oratorios Handel a Mendelssohn yn cael eu perfformio yno.

Un o wyth addoldy yn y pentref ydoedd ond yn anffodus mae’r nifer wedi disgyn i un yn unig.

Yn 2024 cafodd ei werthu i fudiad efengylaidd.

Neuadd y Gweithwyr Penrhiwceibr

Digwyddiad i Gloi Llwybr Celf Penrhiwceibr

Fe gynyddodd y boblogaeth yn sylweddol wrth suddo Pwll Glo Penrikyber ym 1872. Wedi i dai, ysgol, ac addoldai ga neu hadeiladu, roedd angen rhywle ar gyfer amser hamdden ac adloniant. Felly ym 1888 adeiladwyd Neuadd y Gweithwyr Penrhiwceibr. Daeth y nawdd gan gyfraniadau a gostyngiad cyflog o 1c o gyflogau’r glowyr. Wrth i’r gymuend dyfu aeth yr adeilad yn rhy fach ac fe gynlluniwyd estyniad iddo. Serch hynny, yn ystod y Streic Cyffredinol ym 1926 fe ddefnyddiwyd y cyllid i gefnogi’r rheiny mewn angen. Adeiladwyd yr estyniad yn hwyrach lle crëwyd sinema, llyfrgell, ystafell filiards, llwyfan fawr, ystafelloedd gwisgo, ystafell bwyllgor a chyfleusterau arlwyo. Gwnaed gwaith cynnal a chadw sylweddol ym 1993. Heddiw, ceir defnydd o’r adeilad ar gyfer bingo a’r ddarpariaeth o ffrwythau a llysiau ffres am £3 y bag. Ceir defnydd helaeth o hyd o’r llwyfan gan y grŵp drama plant ac am sioeau reslo a chyngherddau a digwyddiadau achlysurol.

Pwll Lee Gardens

Pwll Lee Gardens

Pwll nofio awyr agored yw Pwll Lee Gardens. Cafodd ei adeiladu gyda chyfraniadau gan Lowyr, ac eraill ym 1957. Gardd oedd y safle cyn hynny (1935 – 1957) lle byddai pobl yn mynd i eistedd a sgwrsio. Serch hynny, mae’n debyg taw cyn-lowyr hŷn yn unig oedd yn defnyddio’r ardd yn y gymuned. Fe arweiniodd hyn at fenywod y pentref yn protestio a galw am le fyddai o fudd i’r plant. Fe ufuddhaodd y Glowyr ac adeiladwyd y pwll. Cafodd ei redeg gan yr Awdurdod Lleol tan 2013 pan gorfodwyd iddo gau o ganlyniad i gyllidebau darbodus. Yn 2015 daeth pobl leol at ei gilydd i greu defnydd o’r pwll unwaith yn rhagor a sefydlwyd Pwyllgor Pwll Lee Gardens. Ail-agorwyd y pwll y flwyddyn ganlynol. Gyda nawdd ddaeth yn bennaf gan Nawdd Gymunedol y Loteri Genedlaethol, agorwyd pwll newydd gyda mynediad hygyrch, siop pethau da, ystafell gyfarfod a thŷ bach hygyrch yn 2022.

Ystafelloedd Newid Penrhiwceibr

Ystafelloedd Newid Penrhiwceibr

Mae’r Ystafelloedd Newid yn sefyll ar hen safle Pwll Glo Penrikyber. Am y rheswm yma fe’u dewiswyd fel orielau ‘pop-yp’. Doedd yr Ystafelloedd Newid ddim yn rhan o’r pwll ond yn cynnig cyfleusterau ymolchi a newid i’r nifer enfawr o dimoedd pêl-droed sy’n chwarae ar Gaeau Pentwyn. Yma roedd modd i bobl ddod i weld Chirpy y Caneri gyda’i berchennog Adrian Moses a Ceri y Glöwr. Roedd Ceri, sy’n gyn-löwr ac yn guradur ym Mhwll Mawr Blaenafon, yn llawn gwybodaeth ac fe esboniodd i’r plant ysgol a’r cyhoedd am rôl bwysig y caneris wrth achub bywydau. Roedd gweithiau celf ac arteffactau i’w gweld yn yr Ystafelloedd Newid, a ddaeth â’r sgyrsiau yn fyw.

Cafodd y Llwybrau Celf eu harwain drwy’r pentref gan y crïwr tref a’r hanesydd lleol Mr Huw Williams o Ferthyr Tudful. Roedd ei deithiau a’i sgyrsiau yn addysgiadol tu hwnt ac o hyd yn llawn hiwmor. Fe roddodd Huw ei amser ei hun i’r project, am ddim, dros y 12 diwrnod ac mae pawb ynghlwm yn andros o ddiolchgar iddo am ddod â’r project yn fyw.

Gan Allan Robinson

Cafwyd digwyddiadau agoriadol ac chloi arbennig ar gyfer Llwybr Celf Penrhiwceibr. Hoffwn ni ddiolch i bawb fu’n rhan ar gyfer eu hamser, eu hymdrech a’u cefnogaeth wrth greu dau ddigwyddiad llawn llwyddiant.


Share


More like this