Phoebe Murray-Hobbs sy'n sgwrsio gydag Ophelia Dos Santos ynghylch Adleisiau / Echoes
DOS SANTOS, Ophelia, Adleisiau / Echoes © Ophelia Dos Santos
Cafodd y bychanu misogynistaidd o'r sgiliau a'r creadigrwydd sy'n gysylltiedig â chreu tecstilau ei herio'n uniongyrchol gan artistiaid ffeministaidd yn ail hanner yr 20fed ganrif. Drwy ddefnyddio technegau fel clytwaith brodio a chwiltio yn fwriadol, tynnodd artistiaid benywaidd sylw at y cyfyngiadau a osodwyd gan gymdeithas ar fenywod creadigol. Enghraifft arloesol yn y cyd-destun hwn yw'r artist Americanaidd Judy Chicago gyda The Dinner Party (1974-79).
Mae Anya Paintsil yn creu gweithiau celf wedi'u gwneud o decstilau a gwallt yn unig, wrth iddi herio tuedd addysg gelfyddydol i danbrisio technegau steilio gwallt affro a thecstilau. Mae ffigurau Paintsil wedi’u creu gan ddefnyddio dulliau gwneud rygiau, brodwaith â llaw a thechnegau steilio gwallt Affro, gan blethu arferion traddodiadol a chyfoes o dreftadaeth yr artist o Gymru a Ghana. Mae cyfuno'r Gymraeg â'i ffigurau tecstilau, bob un ohonynt yn bobl o liw, yn ffordd i Paintsil amddiffyn ei hunaniaeth Gymreig a wynebu'r canfyddiad o Gymru fel gwlad wyn homogenaidd. Mae'r ymgysylltiad â hil a rhywedd wedi'i blethu i’r gwaith a’r materolrwydd wrth iddi wrthod gwreiddio ei gwaith yn y Canon Celfyddyd Gain Ewropeaidd.
Archwilio a herio naratifau o berthyn a chynrychiolaeth yng Nghymru drwy tecstilau oedd man cychwyn Ophelia Dos Santos wrth greu Adleisiau / Echoes mewn ymateb i Dannedd Dodi / False Teeth gan Anya Paintsil.
Yn yr ail o'n tri chyfweliad yn ein cyfres "Tecstilau yn y Casgliad Cenedlaethol", mae Ophelia Dos Santos yn siarad am ei gwaith fel artist tecstilau a'r hyn y mae'n ei olygu iddi weithio yng Nghymru.
Mae ffigyrau Anya Paintsil yn archwilio darluniau amhenodol o'r ffigwr Du. Ydy'r wyneb sydd wedi'i frodio yn eich darn Adleisiau / Echoes yn seiliedig ar gyfeiriad neu ydy e hefyd yn amhenodol?
Mae'r wyneb wedi'i seilio'n rhannol ar gyfeiriad ond wedi'i haniaethu'n fwriadol i gynrychioli cof ar y cyd yn hytrach nag unigolyn penodol. Dewisais ddarlunio nodweddion lleiafrifoedd ethnig i adlewyrchu fy amgylchedd ym Mae Caerdydd, cymuned hanesyddol amrywiol wedi'i siapio gan genedlaethau o ddylanwadau amlddiwylliannol.
Rydych chi'n defnyddio ffabrigau wedi'u hailgylchu a'u hailbwrpasu i greu eich darnau; o ble daw'r ffabrigau yma? Oedd unrhyw arwyddocâd i'r dewisiadau o ffabrigau a ddefnyddiwyd ar gyfer y darn hwn?
Rwy'n dod o hyd i'r ffabrigau hyn o amrywiaeth o lefydd, gan gynnwys deunyddiau wedi'u hailbwrpasu, marchnadoedd, a sgrapiau sydd gen i o amgylch y gweithdai. Nid oedd y cyfuniad o glytwaith blodau a siapiau geometrig strwythuredig wedi'i gynllunio, ond wrth fyfyrio ar hyn, gellir gweld cyferbyniad ffabrigau hefyd fel cynrychiolaeth o hunaniaeth Gymreig (cymysgedd o wahanol genhedloedd, diwylliannau a gwahaniaethau mewn un lle).
Beth sy'n eich ysgogi i wneud celf drwy gyfrwng tecstilau?
Rwy'n cael fy nenu at decstilau oherwydd eu natur gyffyrddol, agos atoch, a'u cysylltiad dwfn â'r cof, treftadaeth ac adrodd straeon. Mae hanes ynghlwm â ffabrig, mae'n cael ei wisgo, ei drosglwyddo, ei ailbwrpasu ac rwy'n caru sut mae gweithio gyda ffabrig yn caniatáu naratifau haenog. Mae pwytho yn teimlo fel gweithred fyfyriol a bwriadol, sy'n atgyfnerthu themâu gofal, atgyweirio a gwytnwch. Un o'r heriau mwyaf yw’r modd y mae brodwaith â llaw yn weithred sy’n ddwys o ran amser, ond mae arafwch y broses hefyd yn ei gwneud yn werth chweil, mae pob pwyth yn dynodi amser, llafur a meddwl!
Yn draddodiadol, mae ffurfiau celf tecstilau wedi cael eu diystyru fel "gwaith menyw" yn hanesyddol neu wedi dioddef o gael eu dibrisio yn gyffredinol o blith arferion crefft sy'n dod y tu allan i'r canon Celfyddyd Gain Ewropeaidd. Sut ydych chi'n teimlo am y ffordd y mae tecstilau yn cael eu cynrychioli yn y byd celf heddiw?
Mae'n ymddangos bod amgueddfeydd ac orielau yn cydnabod fwyfwy arwyddocâd tecstilau bellach, ac rwy'n meddwl am yr arddangosfa 'Unravel' yn y Barbican y llynedd. Mae'r cyfryngau cymdeithasol hefyd yn chwarae rôl wrth wthio celf tecstilau i'r brif ffrwd, gan ganiatáu i gynulleidfa ehangach ei gweld a’i gwerthfawrogi. Yn ystod fy amser yn y brifysgol, roedd dod o hyd i artistiaid tecstilau cyfoes ar-lein yn ysbrydoliaeth enfawr i mi - mae Nichole Chui er enghraifft, yn dod ag arddull ffres a modern i frodwaith (mae brodwaith yn dal i fod yn gysylltiedig â menywod Fictoraidd).
Ydych chi'n teimlo bod gweithio yng Nghymru yn arwyddocaol i'ch ymarfer fel artist tecstilau?
Mae gweithio yng Nghymru yn arwyddocaol iawn i'm gwaith. Mae gan y wlad hanes tecstilau cyfoethog, o gynhyrchu gwlân i draddodiadau cwiltio, ac rwy'n caru sut mae tecstilau wedi'u hymgorffori mewn treftadaeth bersonol a chenedlaethol. Wrth bwytho yn fy ngweithdy ym Mae Caerdydd, rwy'n aml yn meddwl am fy nhad-cu a weithiodd yn y gofod o'm blaen (saer wrth ei alwedigaeth, yn arbenigo mewn gwaith adfer). Gyda darnau anorffenedig ac offer toredig yn fy amgylchynu, rwy'n meddwl am etifeddiaeth, trosglwyddo sgiliau a sut mae ein treftadaeth Gorllewin Affrica/Portiwgaleg yn dylanwadu ar ein creadigaethau. Deialog rhwng y gorffennol a'r presennol.
Mae Ophelia Dos Santos yn artist ac ymchwilydd tecstilau o Gymru ac mae ei gwaith yn archwilio’r broses o adrodd straeon drwy bortreadau, gan fyfyrio ar atgofion personol a chymunedol.
Crëwyd Adleisiau / Echoes gan ddefnyddio tecstilau gwastraff ac mae'n mesur 17 modfedd x 17 modfedd.