CELF yr oriel gelf gyfoes genedlaethol i Gymru
Mae CELF yn dod â chasgliad celf gyfoes cenedlaethol Cymru i’r bobl. Rydyn ni’n creu ffyrdd o ymgysylltu gyda chasgliad celf cenedlaethol Cymru, gan dynnu ar straeon a diddordebau lleol.
Rydyn ni’n bartneriaeth sy’n gweithio gyda’n cynulleidfaoedd drwy Gymru a thu hwnt i gynyddu mynediad at y gweithiau celf yn y casgliad. Drwy’n rhaglen o arddangosfeydd, projectau addysgu ac allestyn, digwyddiadau a chomisiynau, rydyn ni’n meithrin perthnasoedd a chyfleodd newydd o fewn cymuned gelf weledol Cymru.
Beth am edrych ar rai o’n projectau diweddar ? Am gael gwybod mwy am y casgliad ? Neu beth am ddarllen rhai o’n erthyglau diweddaraf ?
Dewch i bori trwy filoedd o weithiau celf gyfoes o gasgliad cenedlaethol Cymru, yn fyw neu yn ddigidol.
Am gael gwybod mwy yn ein cylch? Byddwn ni wrth ein bodd yn clywed gennych ac mae croeso i chi gysylltu â ni .