Cwestiynau cyffredin
Ynghylch CELF
Beth yw CELF?
CELF yw’r oriel gelf gyfoes genedlaethol i Gymru, sy’n dod â chasgliad celf gyfoes cenedlaethol y wlad i bawb drwy Gymru ar-lein ac yn fyw drwy bartneriaeth o amgueddfeydd ac oriel ar draws y wlad.
Pwy sy’n ariannu CELF?
Llywodraeth Cymru sy’n ariannu CELF.
Pa bartneriaid sy’n rhan o CELF?
Partneriaid CELF yw:
- Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd
- Amgueddfa Cymru
- Canolfan Grefftau Rhuthun
- Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
- Cyngor Celfyddydau Cymru
- Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe
- Mostyn, Llandudno
- Oriel Davies, y Drenewydd
- Oriel Myrddin, Caerfyrddin
- Plas Glyn-y-Weddw, Pwllheli
- Storiel, Bangor
Sut ydw i'n darganfod beth sy'n digwydd ar draws y bartneriaeth?
Cymerwch olwg ar ein tudalen Projectau ac Arddangosfeydd, neu ewch i wefan yr orielau unigol i ddarganfod beth sydd ymlaen ym mhob lleoliad.
Pa gasgliadau sy’n rhan o CELF?
Mae CELF yn cyflwyno gweithiau celf o gasgliad celf cenedlaethol Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Beth sydd yn y casgliad?
Mae’r casgliad a welwch drwy CELF yn rhan o’r casgliad celf cenedlaethol mae Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gofalu amdano. Mae’r casgliad yn amrywio o baentiadau a llyfrau braslunio, gosodweithiau celf, serameg a cherfluniau, i ffotograffiaeth, fideo a chyfryngau newydd. Mae'r casgliad celf cyfan yn cynnwys degau o filoedd o weithiau celf ac mae'n tyfu o hyd.
Defnyddio ein gwefan
Sut mae chwilio drwy’r casgliad?
Mae modd pori drwy'r casgliad ar y dudalen Archwilio gweithiau celf. allwch newid eich chwiliad drwy ddefnyddio'r hidlwyr sy'n ymddangos yn yr opsiynau chwilio.
Sut galla i gyfrannu i'r wefan?
Cadwch lygad ar ein cyhoeddiadau diweddaraf ar Cynfas a thrwy Instagram [@celfarycyd] am unrhyw gyfleoedd.
Pam nad oes gwybodaeth gyd-destunol ar gael ar gyfer pob gwaith celf yn y casgliad?
Mae CELF yn defnyddio data casgliadau Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Gyda degau o filoedd o weithiau celf yn y casgliad celf cenedlaethol, rydyn ni’n adolygu ac yn diweddaru ein cofnodion yn barhaus ac yn gweithio ar ychwanegu rhagor o wybodaeth gyd-destunol drwy’r amser.
Rydw i wedi dod o hyd i rywbeth nad yw ar gael yn ddwyieithog. Pam hynny?
Mae'r wefan yma’n defnyddio data casgliadau sydd wedi’i etifeddu, ac rydyn ni’n cydnabod y gall rhywfaint o'r wybodaeth yn ein cofnodion fod wedi dyddio. Rydyn ni wrthi’n ei hadolygu. Os hoffech dynnu ein sylw at wybodaeth sydd ynghlwm wrth waith celf, cysylltwch â ni drwy ein tudalen Gysylltu.
Rydw i wedi sylwi ar ddisgrifiad sy’n defnyddio terminoleg hen ffasiwn, sut mae gofyn i hwn gael ei ddiweddaru?
Mae ganddon ni ddyletswydd gofal ar gyfer ein holl gynulleidfaoedd. Mae'r wefan yma’n defnyddio data casgliadau sydd wedi’i etifeddu. Rydyn ni’n cydnabod y gall rhywfaint o'r wybodaeth yn ein cofnodion fod yn hen ffasiwn neu'n wahaniaethol ac rydyn ni wrthi’n ei hadolygu fel rhan o broses barhaus. Os hoffech dynnu ein sylw at wybodaeth sydd ynghlwm wrth waith celf, cysylltwch â ni drwy ein tudalen Gysylltu.
Pam nad oes delwedd o rai o’r gweithiau celf?
Fel rhan o broject digideiddio mawr, mae Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru wrthi’n digideiddio degau o filoedd o weithiau celf o’r casgliad. Os nad oes delwedd, mae’n bosib nad yw’r gwaith celf wedi’i ddigideiddio eto, ei fod yn cael ei drin gan ein tîm cadwraeth, ar fenthyg i oriel arall, neu am resymau hawlfraint.
Mae yna weithiau celf ffilm a fideo yn y casgliad. A yw'n bosib gwylio'r rhain ar-lein?
Caiff ffilmiau celf eu creu gyda gofod neu brofiad penodol mewn golwg. Oherwydd hyn, ac oherwydd rhesymau hawlfraint, ni allwn ddangos y gwaith llawn ar-lein. O bryd i'w gilydd fe fydd artist yn cymeradwyo llun llonydd o'r gwaith i ni ei ddefnyddio ar-lein, a phan mae hynny ar gael, fe fydd y llun llonydd hwnnw yn ymddangos yn lle'r ffilm.
Pam mae rhai delweddau yn aneglur mewn canlyniadau chwilio?
Mae ganddon ni ddyletswydd gofal ar gyfer ein holl gynulleidfaoedd. Mae rhai o'n gweithiau celf yn cynnwys delweddau a allai beri gofid i rai defnyddwyr, a theimlwn ei bod yn bwysig pylu’r delweddau yma mewn canlyniadau chwilio. Os oes gennych sylwadau am y cynnwys yma, cysylltwch â ni drwy ein tudalen Gysylltu.
Mae gen i gwestiwn am hawlfraint – gyda phwy y galla i gysylltu?
Ewch i’n tudalen Hawlfraint am ragor o wybodaeth. Rydyn ni wedi ceisio adnabod deiliaid hawlfraint a chael caniatâd ym mhob achos perthnasol, ac os ydyn ni wedi atgynhyrchu unrhyw beth heb ganiatâd yn anfwriadol neu wedi cambriodoli hawlfraint, cysylltwch â ni drwy ein tudalen Gysylltu.
Alla i brynu print o waith celf neu lawrlwytho copi ohono?
Dydyn ni ddim yn cynnig gwasanaeth siop fel rhan o CELF. Os oes gennych ddiddordeb mewn prynu print, ewch yn uniongyrchol i wefannau Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Rydyn ni’n awyddus i chi fwynhau edrych ar y gweithiau celf ar CELF fel rhan o’n profiad ar-lein. Ar hyn o bryd, dydyn ni ddim yn cynnig opsiwn lawrlwytho ar gyfer gweithiau celf.
Os nad ydych chi’n gallu dod o hyd i ateb i’ch cwestiwn yma, Cysylltwch â ni os gwelwch chi’n dda.