Hawlfraint

Mae Celf ar y Cyd wedi ymrwymo i barchu hawliau eiddo deallusol unigolion eraill. Gwneir ymdrech drylwyr i gydnabod deiliaid hawlfraint cyfreithiol pob gwaith celf yn y casgliad. Er hyn, nid ydym wedi llwyddo i olrhain pob deiliad hawlfraint.

Er ein bod am arddel hawliau cydsyniad artistiaid a deiliaid hawlfraint, rydym am sicrhau y gall y cyhoedd weld gweithiau o'r Casgliad Celf Cenedlaethol yn Amgueddfa Cymru.

Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth hawlfraint am y gweithiau hyn, neu â hawl cyfreithiol i unrhyw waith, cysylltwch â ni.

Polisi Tynnu Deunyddiau

Mae Celf ar y Cyd wedi ymrwymo i barchu hawliau eiddo deallusol unigolion eraill. Gwnaed pob ymdrech resymol i sicrhau y caiff deunydd ei atgynhyrchu ar Celf ar y Cyd gyda chaniatâd llawn deiliaid yr hawlfraint. Mae'r manylion hawlfraint i'w gweld o dan y ddelwedd gyfatebol neu yn nhestun trosrolio'r ddelwedd.

Os ydych chi'n ddeiliad hawlfraint ac yn poeni eich bod wedi dod o hyd i ddeunydd ar ein gwefan nad ydych wedi rhoi caniatâd iddo fod yno (neu nad yw wedi’i ganiatáu dan eithriad hawlfraint dan Ddeddf Hawlfraint, Dylunio a Phatentau y DU 1988) cysylltwch â ni drwy'r dudalen cysylltwch â ni gan nodi'r canlynol:

  • • Eich manylion cyswllt
  • • Manylion llawn cynhyrchydd y deunydd
  • • Yr union gyfeiriad gwefan llawn (URL) lle gwnaethoch chi ganfod y deunydd
  • • Prawf taw chi yw perchennog yr hawliau a datganiad eich bod, dan rybudd anudon, taw chi yw deiliad yr hawlfraint neu'n gynrychiolydd wedi eich awdurdodi i weithredu dros y deiliad.