Celf ar y Cyd: Y Casgliad Celf Gyfoes

Dewch i bori, dysgu a chael eich ysbrydoli gan filoedd o weithiau celf gyfoes o gasgliad Amgueddfa Cymru ar y sgrîn yn eich cartre eich hun. Yma mae’ch cyfle i weld casgliadau sydd ddim i’w gweld mewn orielau yn ogystal â dysgu am y ffordd yr ydyn ni’n storio a gofalu am gelf gyfoes.

Mae’r casgliad celf cenedlaethol yn pontio cannoedd o flynyddoedd ac mae cadwraethwyr a churaduron Amgueddfa Cymru yn gofalu ar ei ôl. Mae’r casgliad yn cynnwys pob math o weithiau celf gan gynnwys paentiadau, cerflunwaith, ffotograffiaeth, fideos, celfyddyd gosodwaith, lluniau, llyfrau braslunio artistiaid a llawer mwy. Mae’r wefan hon yn gyfle i roi llwyfan i’r gweithiau celf gyfoes o fewn y casgliad fel erioed o’r blaen. Mae’n cynnwys lleisiau unigryw o gymdeithas fywiog Cymru, gan ennyn gwahanol ymatebion i’r casgliad a rhannu gwybodaeth ac ystyriaethau am y casgliad celf gyfoes.

Fe lawnsiwyd Celf ar y Cyd yn 2020 wrth gychwyn gyda 4 project craidd wedi’u harwain gan Amgueddfa Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru wedi'u hariannu gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i bandemig Covid-19: 100 Celf; Celf Mewn Ysbytai; Cynfas; a Creu Gwaith Newydd: Artistiaid yn Ymateb i’r Nawr .

Mae Celf ar y Cyd yn rhan o fenter ehangach Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol Cymru Llywodraeth Cymru mewn partneriaeth gydag Amgueddfa Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

ARNOLD, Eve
© Eve Arnold/Magnum/Amgueddfa Cymru - Museum Wales