Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol i Gymru (OCGGC)

Mae Celf ar y Cyd yn elfen ganolog o'r Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol i Gymru. Bydd y fenter yn rhoi mynediad i'r casgliad cenedlaethol ym mhob cwr o Gymru, ar-lein ac yn y cnawd. Mae sefydlu Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol i Gymru yn un o ymrwymiadau allweddol Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru a'r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru. Mae'r ymrwymiad yn cael ei wireddu diolch i gydweithredu rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru, Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Mae'r casgliad cenedlaethol o gelf gyfoes yn Amgueddfa Cymru a'r Llyfrgell Genedlaethol yn perthyn i bawb yng Nghymru. Bydd y model Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol yn ehangu mynediad drwy rwydwaith o orielau ym mhob cwr o Gymru. ⁠Diolch i raglen fenthyg gynhwysfawr, bydd cyfle i bawb yng Nghymru i ddarganfod y casgliad yn lleol, yn ogystal â sicrhau mynediad digidol gwell i'r casgliad cenedlaethol i bobl ar draws Cymru, y DU a thu hwnt.

Y naw oriel sy'n aelodau o'r rhwydwaith yw:

  • Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth
  • Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe
  • MOSTYN, Llandudno
  • Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd
  • Oriel Davies, y Drenewydd
  • Oriel Myrddin, Caerfyrddin
  • Plas Glyn-y-Weddw, Pwllheli
  • Canolfan Grefftau Rhuthun
  • STORIEL, Bangor

Mae Orielau Cartref yn orielau sy'n dangos y casgliad cenedlaethol yn barod, neu'n bwriadu gwneud hynny, ac sy'n rhan o'r seilwaith presennol yng Nghymru. ⁠Mae'r rhain yn cynnwys Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth.

Mae'r Oriel Ganolog wrthi'n cael ei datblygu i roi cartref parhaol ac wyneb cyhoeddus amlwg i'r Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol.