Mostyn

Mostyn, Llandudno
Mostyn, Llandudno

Mostyn: Celf ryngwladol. Gwreiddiau Cymreig.

Mae Mostyn yn oriel gyhoeddus sy’n rhad ac am ddim yn Llandudno, sy'n cyflwyno rhaglen o gelf gyfoes ryngwladol eithriadol.

Mae eu rhaglen ymgysylltu â'r cyhoedd yn cynnwys sgyrsiau, teithiau a gweithdai gydag artistiaid a gwneuthurwyr. Mae eu siop enwog yn cefnogi dros 400 o artistiaid o bob cwr o Gymru a thu hwnt.

Wedi'i lleoli funudau o orsaf Llandudno a'r traeth, caiff ffasâd brics coch Edwardaidd ac orielau concrit modern o droad y ganrif eu cyfuno mewn dyluniad pensaernïol trawiadol sydd wedi ennill gwobrau. Mae Caffi braf yn gwerthu coffi rhost lleol, ynghyd â chacennau cartref a phrydau ysgafn.

Mae Mostyn yn agored i ddehongliad. Yn agored i syniadau. Yn agored i bawb. Mae'r adeilad yn gwbl hygyrch, ac mae’r mynediad yn rhad ac am ddim i bob un o'u harddangosfeydd.

Ymweld


Mostyn, Ffotograffiaeth gan FfotoNant

Mostyn, Ffotograffiaeth gan FfotoNant

Mostyn, Ffotograffiaeth gan FfotoNant

Mostyn, Ffotograffiaeth gan FfotoNant