Oriel Gelf Glynn Vivian

Mostyn, Llandudno
Mostyn, Llandudno

Oriel Gelf Glynn Vivian: Canolfan ragoriaeth ar gyfer y celfyddydau gweledol yn Abertawe.

Mae Oriel Gelf Glynn Vivian Abertawe yn chwarae rhan hanfodol mewn cymdeithas leol ac fel rhan o'r ecosystem greadigol ar draws Cymru. Drwy arddangosfeydd, prosiectau cydweithredol, ymgysylltu cymdeithasol, dysgu, ymestyn ac addysg mae’r Oriel yn gweithio gyda chynulleidfaoedd a chymunedau lleol. Mae ei rhaglenni'n canolbwyntio ar ragoriaeth, cydraddoldeb, iechyd a lles, gan gefnogi artistiaid a'r mwyaf diamddiffyn yn ein cymdeithas. Mae’r Oriel yn cefnogi artistiaid lleol drwy arddangosfeydd, gwobrau, caffaeliadau a chyflogaeth, yn ogystal â dod â rhai o artistiaid mwyaf blaenllaw'r byd i Gymru. Mae’n cyflwyno arddangosfeydd mawr a chomisiynau newydd, gan weithio gyda llawer o sefydliadau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Mae ei chasgliad o weithiau celf a chrochenwaith yn eiddo i bobl Abertawe ac yn ffurfio rhan bwysig o gof diwylliannol y ddinas. Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn sefydliad Portffolio Celfyddydau Cyngor Celfyddydau Cymru ac yn rhan o Plus Tate a Grŵp Celfyddydau Gweledol Cymru.

Ymweld


Oriel Gelf Glynn Vivian       
Ffordd Alexandra       
Abertawe       
SA1 5DZ

I gael gwybod mwy, ewch i:

Oriel Gelf Glynn Vivian, Ffotograffiaeth gan Phil Boorman, 2017

Oriel Gelf Glynn Vivian, Carlos Bunga, Terra Ferma, Ffotograffiaeth gan Polly Thomas

Oriel Gelf Glynn Vivian, Heather Phillipson, Out of this World, 2024, Ffotograffiaeth gan Polly Thomas

Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe Agored 2021, Ffotograffiaeth gan Polly Thomas