Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd
Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd: adrodd stori Casnewydd drwy ei hanes, diwylliant ac amgylchfyd ers 1888.
Mae Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd yn ymroddedig i ddehongli gorffennol a phresennol Casnewydd drwy gyfrwng gwrthrychau a gweithiau celf a gasglwyd ers iddi agor i'r cyhoedd yn 1888.
Yn yr Oriel Gelf, gall ymwelwyr archwilio casgliad Casnewydd o baentiadau lleol, Cymreig a Phrydeinig, dod o hyd i ysbrydoliaeth yng nghasgliad Iris Fox o gelf addurniadol, a rhyfeddu at yr ystod helaeth o debotiau a roddwyd i Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd gan John ac Elizabeth Wait.
Mae'r Oriel hefyd yn gartref i raglen o arddangosfeydd sy’n newid yn seiliedig ar themâu a phynciau amrywiol ac mae’n cynnal amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn.
Ymweld
Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd
Sgwâr John Frost
Casnewydd
NP20 1PA
I gael gwybod mwy, ewch i:

Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd, Ffotograffiaeth gan FfotoNant
Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd, Ffotograffiaeth gan FfotoNant
Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd, Ffotograffiaeth gan FfotoNant
Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd, Ffotograffiaeth gan FfotoNant