Oriel Davies Gallery

Mostyn, Llandudno
Mostyn, Llandudno

Oriel Davies Gallery: creu cyfraniad cadarnhaol i'r gymuned, i'r gymdeithas ac i'r amgylchedd

Mae Oriel Davies Gallery yn oriel gelf gyhoeddus annibynnol am ddim yn y Drenewydd, yn y canolbarth. Mae'r Oriel yn cyflwyno celf o'r radd flaenaf sy'n ysgogi ac yn herio’r meddwl gan ystod amrywiol a chynhwysol o artistiaid lleol, cenedlaethol a rhyngwladol mewn amgylchedd sy'n groesawgar, yn ddiddorol ac yn addysgiadol. Mae'r Oriel a'r mannau arddangos yn addas i deuluoedd ac yn hygyrch.

Mae'r rhaglen yn archwilio syniadau cymhleth mewn ffordd hygyrch a pherthnasol sy'n archwilio cysylltiadau rhwng cymunedau lleol a byd-eang. Mae Oriel Davies yma i ysbrydoli, cyffroi, ymgysylltu a herio. Mae caffi ar y safle sy'n gweini coffi a chacennau. Caiff pobl greadigol o Gymru eu dathlu yn ei siop. Mae wastad rhywbeth yn digwydd yn Oriel Davies.

Ymweld


Oriel Davies Gallery    
Y Parc   
Y Drenewydd   
Powis    
SY16 2NZ

I gael gwybod mwy, ewch i:

Oriel Davies

Oriel Davies

Oriel Davies

Oriel Davies