Oriel Myrddin
Oriel Myrddin: canolfan Sir Gaerfyrddin ar gyfer celf weledol, crefft a dylunio cyfoes.
Wedi'i lleoli yng nghanol tref Caerfyrddin, mae Oriel Myrddin yn oriel gelf gyfoes flaenllaw yn y gorllewin. Mae'r oriel, sy'n arddangos celf weledol a gwaith crefft a dylunio rhagorol, yn cynnig rhaglen gyffrous o arddangosfeydd, digwyddiadau a phrosiectau cymunedol sy'n tanio creadigrwydd ac yn dod â phobl ynghyd.
Ar hyn o bryd mae ar gau ar gyfer gwaith ailddatblygu mawr, ond bydd yr oriel yn ailagor ym mis Medi 2025 gyda mannau â chyfarpar gwell ac ystod ehangach o weithgareddau. Ochr yn ochr â'i harddangosfeydd, bydd Oriel Myrddin yn cynnal gweithdai, sgyrsiau a rhaglenni addysgol, gan groesawu pobl o bob oed a chefndir i gymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol.
Gyda ffocws cryf ar ansawdd, hygyrchedd, ac ymgysylltu â'r gymuned, mae Oriel Myrddin yn chwarae rhan bwysig ym mywyd diwylliannol Cymru a thu hwnt.
Ymweld
Oriel Myrddin
Lôn yr Eglwys
Caerfyrddin
Sir Gâr
SA31 1LH
I gael gwybod mwy, ewch i:

Oriel Myrddin
Oriel Myrddin, Ffotograffiaeth gan Heather Birnie
Oriel Myrddin, Ffotograffiaeth gan Abby Poulson
Oriel Myrddin