Plas Glyn-y-Weddw

Mostyn, Llandudno
Mostyn, Llandudno

Plas Glyn-y-Weddw: Canolfan Gelf a Threftadaeth o Bwysigrwydd Cenedlaethol

Mae Plas Glyn-y-Weddw yn ganolfan gelfyddydol a threftadaeth o bwysigrwydd cenedlaethol sy’n asio celf, natur a diwylliant drwy ystod eang o weithgareddau. Wedi'i hachredu fel amgueddfa ers 2013, mae'r ganolfan wedi ei rheoli gan ymddiriedolaeth elusennol annibynnol ers 1996.

Mae'n cynnwys coetir 12 erw y Winllan, sydd wedi'i hadfer gyda llwybrau cerdded a theatr awyr agored. Rhwng 2019 a 2022, adeiladwyd caffi cerfluniol newydd a enillodd wobrau dylunio cenedlaethol. Heddiw, mae Plas Glyn-y-Weddw yn denu dros 140,000 o ymwelwyr bob blwyddyn. Yn 2023, daeth yn gleient refeniw i Gyngor Celfyddydau Cymru ac ymunodd â CELF yr oriel gelf gyfoes genedlaethol Cymru, gan ehangu’r mynediad at gelf gyfoes ledled y wlad.

Ymweld


Plas Glyn-y-Weddw, Ffotograffiaeth gan FfotoNant

Plas Glyn-y-Weddw, Ffotograffiaeth gan FfotoNant

Plas Glyn-y-Weddw, Ffotograffiaeth gan FfotoNant

Plas Glyn-y-Weddw, Ffotograffiaeth gan FfotoNant

Projectau, Arddangosfeydd & Erthygl