Canolfan Grefft Rhuthun

Mostyn, Llandudno
Mostyn, Llandudno

Canolfan Grefft Rhuthun: Y Ganolfan ar gyfer Celfyddydau Cymhwysol

Un o brif ganolfannau celfyddydau cymhwysol y Deyrnas Unedig yw Canolfan Grefft Rhuthun, ac mae wedi'i lleoli mewn adeilad cyfoes arobryn, ychydig funudau o ganol hanesyddol y dref. Wedi'i dylunio gan y penseiri Sergison Bates, mae wedi derbyn sylw helaeth, gan ennill Gwobr Dewi-Prys Thomas 2009 a chyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr y Gronfa Gelf 2009 a'i nodi fel enghraifft o 'Hyfrydwch Dylunio' gan Gomisiwn Dylunio Cymru. Mae'n dangos y gorau o'r celfyddydau cymhwysol cyfoes yn genedlaethol ac yn rhyngwladol yn yr orielau mawr. Mae oriel manwerthu crefft, gofod addysg bywiog gyda gweithdai crefft y gellir eu harchebu, artistiaid preswyl, yn ogystal â bwyty ar y safle, sef Café R, a maes parcio am ddim. Ariennir y ganolfan gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Ymweld


Canolfan Grefft Rhuthun     
Lon Parcwr      
Rhuthun      
LL15 1BB

I gael gwybod mwy, ewch i:

Canolfan Grefft Rhuthun, Ffotograffiaeth gan FfotoNant

Canolfan Grefft Rhuthun, Ffotograffiaeth gan FfotoNant

Canolfan Grefft Rhuthun, Ffotograffiaeth gan FfotoNant

Canolfan Grefft Rhuthun, Ffotograffiaeth gan FfotoNant