Cyngor Celfyddydau Cymru

Mostyn, Llandudno
Mostyn, Llandudno

Cyngor Celfyddydau Cymru: Yn helpu pobl i greu, cyflwyno ac arddangos celfyddyd.

Cyngor Celfyddydau Cymru yw’r corff cyhoeddus swyddogol ar gyfer ariannu a datblygu’r celfyddydau. Bob dydd, mae pobl ledled Cymru yn mwynhau ac yn cymryd rhan yn y celfyddydau. Mae’r Cyngor yn helpu i gefnogi a thyfu'r gweithgaredd hwn. Gwneir hyn drwy ddefnyddio’r arian cyhoeddus sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru a thrwy ddosbarthu’r arian a gaiff Y Cyngor fel achos da gan y Loteri Genedlaethol.

Drwy reoli a buddsoddi’r cronfeydd hyn mewn gweithgarwch creadigol, mae Cyngor y Celfyddydau yn cyfrannu at ansawdd bywyd pobl ac at les diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd Cymru.

Mae bod yn un o bartneriaid CELF yn helpu Cyngor Celfyddydau Cymru i sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei rannu’n decach a chelf gyfoes yn cyrraedd mwy o bobl ar draws Cymru. Bydd y buddsoddiad sylweddol yma yn cefnogi'r 9 oriel sy’n rhan o rwydwaith CELF i wella eu cyfleusterau, yn cynnig cyfleodd newydd i artistiaid a chynulleidfaoedd, ac yn helpu i greu sîn celf gyfoes fyrlymus drwy rwydwaith o orielau, lleoliadau a sefydliadau.


Agored Abertawe 2023, Oriel Gelf Glynn Vivian, Ffotograffiaeth gan Polly Thomas

Gludafael, Oriel Gelf Glynn Vivian, Ffotograffiaeth gan Polly Thomas

Clwb Celf, Oriel Davies