JOHN, Sir William Goscombe
1860-1952
Celf
<p>Ar ôl ei ethol yn Gymrawd yr Academi Frenhinol ym 1899, dechreuodd Goscombe John dderbyn comisiynau ar gyfer cerflunwaith cyhoeddus a phortreadau o ffigurau mawr bywyd cyhoeddus. Ym 1905 gwnaeth gerflun efydd o'r dyngarwr John Cory a godwyd o flaen Neuadd y Ddinas. Roedd John yn fab i Richard Cory oedd yn masnachu rhwng Caerdydd, Bryste ac Iwerddon. Ym 1859, sefydlodd John a'i frawd Richard eu cwmni allforio glo eu hunain, Cory Brothers and Co. Sefydlodd y cwmni storfeydd, swyddfeydd ac asiantaethau ym mhedwar ban y byd. Yn ogystal roedden nhw'n berchen ar byllau glo a nhw oedd perchnogion wagenni preifat mwyaf y DU yn ôl y sôn. Roedd y ddau frawd yn cefnogi'r Mudiad Dirwest ac yn Fethodistiaid gweithgar. Roedd John yn rhoi bron i £50,000 y flwyddyn i elusennau yn y blynyddoedd cyn ei farwolaeth. Mae'n debyg mai rodd i Cory oedd hwn i ddathlu dadlenni cerflun Neuadd y Ddinas.</p>
Artist: JOHN, Sir William Goscombe
(1906)
NMW A 2636
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.