McBEAN, Angus
Celf
<p>Mae’r portread hyn yn dangos Williams fel actor, yn chwarae rhan glöwr yn ei ddrama hunangofiannol enwog, The Corn Is Green (1938). Ganed Williams ym Mostyn, Sir y Fflint a chafodd ei addysg ym Mhrifysgol Rhydychen. Ymddangosodd ar lwyfan am y tro cyntaf ym 1927, ond daeth yn llwyddiannus dros nos gyda Night Must Fall (1935), drama gyffrous a ysgrifennwyd ganddo ac y bu’n serennu ynddi. Ymddangosodd Williams hefyd mewn llu o ffilmiau a dramâu radio. Mae ei sioeau llenyddol un dyn, genre theatraidd a ddyfeisiodd ei hun i raddau helaeth, wedi dod yn chwedlonol. Cafodd Williams ei gydnabod yn gyhoeddus fel dyn deurywiol cyn llawer o’i gyfoeswyr, ac ysgrifennodd yn agored am ei rywioldeb yn ei ddau hunangofiant.</p>
Artist: McBEAN, Angus
(1938)
NMW A 29537
Celf
<p>Mae’r portread hyn yn dangos Williams fel dramodydd. Ganed Williams ym Mostyn, Sir y Fflint a chafodd ei addysg ym Mhrifysgol Rhydychen. Ymddangosodd ar lwyfan am y tro cyntaf ym 1927, ond daeth yn llwyddiannus dros nos gyda Night Must Fall (1935), drama gyffrous a ysgrifennwyd ganddo ac y bu’n serennu ynddi. Ymddangosodd Williams hefyd mewn llu o ffilmiau a dramâu radio. Mae ei sioeau llenyddol un dyn, genre theatraidd a ddyfeisiodd ei hun i raddau helaeth, wedi dod yn chwedlonol. Cafodd Williams ei gydnabod yn gyhoeddus fel dyn deurywiol cyn llawer o’i gyfoeswyr, ac ysgrifennodd yn agored am ei rywioldeb yn ei ddau hunangofiant.</p>
Artist: McBEAN, Angus
(1938)
NMW A 29538
Celf
<p>Roedd yr artist o Gymru, Angus McBean, yn adnabyddus am ei ffotograffiaeth theatrig a dyfeisgar yn y 1930au a'r 1940au. Cyfrannodd ei yrfa fel dylunydd setiau a'i ddiddordeb mewn swrrealaeth at ei arddull ffotografffig unigryw, a'i wneud yn un o ffotograffwyr portreadau mwyaf poblogaidd yr 20fed ganrif. Dyma ffotograff o'r gantores enwog o Fae Teigr, Shirley Bassey.</p>
Artist: McBEAN, Angus
(1959)
NMW A 29528
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.