Landscape with Hills and Flowers
CRABTREE, Jack
Dangoswyd y paentiad hwn am y tro cyntaf yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ym 1971 fel rhan o’r arddangosfa deithiol ‘Sbectrwm Celf Cymru’. O’r arddangosfa honno, prynwyd y gwaith gan deulu Lyn Illtyd Davies Llewellyn (1922-2012). Lyn Llewellyn oedd Prif Beiriannydd Sifil y Bwrdd Glo Cenedlaethol ac, yn dilyn trychineb Aberfan, fe gafodd y dasg o sicrhau diogelwch tomenni glo ar draws y de.
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.
Datganiad hawlfraint wedi'i ddarparu gan Amgueddfa Cymru