×

Image filter options
Mae’r wefan hon yn newydd a dal yn cael ei datblygu.
Gweithiau Celf Themâu
Projectau ac Arddangosfeydd Erthyglau Cynfas Dysgu
Amdanom Ni Cysylltwch â ni
En
Gweithiau Celf Themâu Projectau ac Arddangosfeydd Erthyglau Cynfas Dysgu Amdanom Ni Cysylltwch â ni
Nôl Gwaith Celf Blaenorol Gwaith Celf Nesaf

Pen Victor Hugo (1802-1885)

RODIN, Auguste

Pen Victor Hugo (1802-1885)
Delwedd: © Amgueddfa Cymru
 Chwyddo  

Mae Victor Hugo yn un o fawrion llenyddiaeth Ffrainc, ac fel Gweriniaethwr pybyr, mae ei nofelau epig yn amlygu anghyfiawnder cymdeithasol a gwleidyddol y cyfnod. Pan ddaeth Napoleon III i rym ym 1851, galwodd Hugo ef yn fradwr. Bu’n byw’n alltud yn Guernsey tan gwymp yr Ail Ymerodraeth ym 1870, gan ddychwelyd i Baris gyda’r wlad yng nghanol helynt cynyddol y Rhyfel â Prwsia. Nid oedd Hugo yn fodlon eistedd yn llonydd ar gyfer portread ohono, felly roedd rhaid i Rodin weithio o frasluniau cyflym. Yn ôl yr artist, 'meddyliais i mi weld Iau Ffrengig; ond ar ôl dod i'w adnabod yn well, roedd yn debycach i Hercules'. Mae'r penddelw yn cyfleu statws urddasol yr awdur o fri ac arwr cenedlaethol y Ffrancwyr, a ysgrifennodd glasuron fel 'Les Miserables 'a 'Notre-Dame de Paris.' Disgrifiodd Syr Goscombe John ef fel 'tua'r gorau ganddo o'r math hwnnw ac yn enwog ar hyd a lled y byd. Mae'n waith arbennig o onest'.

Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.

Datganiad hawlfraint wedi'i ddarparu gan Amgueddfa Cymru

Manylion


Collection

Amgueddfa Cymru

Rhif yr Eitem

NMW A 304

Creu/Cynhyrchu

RODIN, Auguste
Dyddiad: 1883 ca

Derbyniad

Gift, 1934
Given by Sir William Goscombe John

Techneg

Cast
Forming
Applied Art

Deunydd

Bronze
pren

Lleoliad

In store
Mwy

Tags


  • Awdur
  • Celf Gain
  • Celfyddydau Ac Adloniant
  • Cerflun
  • Dyn
  • Llenyddiaeth, Llên
  • Pobl
  • Portread
  • Rodin, Auguste

Rhannu


Mwy fel hyn


  • Gweithiau Celf
  • Themâu
  • Projectau ac Arddangosfeydd
  • Erthyglau Cynfas
  • Dysgu

Y Wefan

  • Amdanom Ni
  • Mynediad
  • Cwestiynau cyffredin
  • Hawlfraint
  • Cwcis

CYSYLLTWCH Â Ni

  • Cysylltwch â ni
  • Instagram @celfarycyd
× ❮ ❯