Gŵyl Flynyddol y Barcutiaid, Jaipur
FRANKLIN, Stuart
Wedi ei ysgrifennu ar gefn y gwaith hwn: "Cafodd y llun ei saethu yn Jaipur yn 2000 yn ystod gŵyl flynyddol y barcutiaid. Mae miloedd o bobl ar doeau'r ddinas yn hedfan eu barcutiaid mewn brwydrau: gyda’r nod o dorri llinyn barcutiaid eu gwrthwynebwyr. Mae'r llinynnau'n cael eu trochi mewn cymysgedd o ddarnau mân o wydr a glud. Mewn gwirionedd, dyma lun roeddwn i wedi anghofio fy mod wedi ei dynnu tan yn eithaf diweddar. Roeddwn i'n cofio'r digwyddiad a'r aseiniad, ond nid y foment deimladwy arbennig hon. Wn i ddim faint o ffotograffau dw i wedi'u tynnu. Mae'n gwneud i mi feddwl tybed faint o 'eiliadau teimladwy' dw i wedi eu dal ond rywsut wedi anghofio amdanyn nhw." — Stuart Franklin
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.