Blaenau Ffestiniog Circle
LONG, Richard
Mae Richard Long yn eicon yn natblygiad celf gysyniadol. Yn ei waith gwelir newid nodedig yn y dulliau a ddefnyddir gan artistaid i gyfleu’r tirlun. Mae cylchoedd yn elfen gyson yn ei waith, ac yn adlais o gylchoedd cerrig hynafol. Yn y cerflun hwn, casglodd yr artist deilchion llechi o chwarel Llechwedd ym Mlaenau Ffestiniog gan ddod â’r tirlun, yn llythrennol, i’r oriel.
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.
Datganiad hawlfraint wedi'i ddarparu gan Amgueddfa Cymru
Mwy fel hyn