Y Trên
CHERNYSHEVA, Olga
Artist o Rwsia yw Olga Chernysheva sy'n gweithio'n bennaf gyda ffotograffiaeth a ffilm. Mae'n bosib mai Y Trên (2003) yw ei gwaith fideo mwyaf adnabyddus. Mae camera'n symud drwy drên yn ninas Moscow, gan ddal pytiau o'r teithwyr: cymudwyr, cerddorion a beirdd fel ei gilydd. Mae'r delweddau du a gwyn wedi'u gosod i Concerto rhif 21 Mozart i’r Piano, gan roi naws fyfyriol i'r ffilm. Penllanw'r ffilm yw dyn yn symud drwy un o’r cerbydau, gan gasglu darnau arian wrth iddo adrodd barddoniaeth Alexander Pushkin o’r 19eg ganrif ar drên cymudwyr o'r 21ain ganrif.
Lluniau llonydd o waith celf fideo yw’r rhain.
Caiff ffilmiau celf eu creu gyda gofod neu brofiad penodol mewn golwg. Oherwydd hyn, ac oherwydd rhesymau hawlfraint, ni allwn ddangos y gwaith llawn ar-lein.
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.
Datganiad hawlfraint wedi'i ddarparu gan Amgueddfa Cymru
Mwy fel hyn
Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
BRANGWYN, Sir Frank William
© Ystâd Sir Frank William Brangwyn. Cedwir Pob Hawl 2025/Bridgeman Images/Amgueddfa Cymru
