Tebot Estynedig
Suttie, Angus
Roedd Angus Suttie yn un o artistiaid cerameg blaenllaw ei genhedlaeth cyn ei farwolaeth gynnar o salwch yn ymwneud ag AIDS. Wedi'i eni ger Dundee, gadawodd am Lundain yn ddyn ifanc ac yn ystod y saithdegau daeth yn weithgar yn nyddiau cynnar y Ffrynt Rhyddhad Hoyw. Mae tebotau gorliwiedig Suttie yn gwneud cyfeiriadau doniol at y corff dynol ac yn adlewyrchu ei ddicter at wleidyddiaeth llywodraeth Thatcher. Meddai’r artist: “Mae fy ngwaith yn dweud nad ydw i’n credu yn yr hyn sy’n digwydd. Mae'r llywodraeth yn tynnu popeth i lawr i lefel elfennol, ond mae bywyd yn fwy cyfoethog na hynny.”
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.