Merch wrth Len
PASMORE, Victor
O 1941 ymlaen peintiodd yr arlunydd gyfres o bortreadau o'i wraig. Mae'n debyg mai hwn yw'r gorau: cafodd ei beintio tra oeddent yn byw yn Chiswick. Daw ei gyfansoddiad o bortreadau gan y meistr Johannes Vermeer (1632-75) o'r Iseldiroedd, ond mae'r naws dywyll a sythwelediad ei weledigaeth yn nodweddiadol o Pasmore. Dywedodd ar un adeg, 'Mae'n siŵr mai'r prawf terfynol o beintiad o ddyn yw nid a yw'n debyg iddo, ond a yw'n teimlo fel y dyn ei hun'.
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.
Datganiad hawlfraint wedi'i ddarparu gan Amgueddfa Cymru