×

Image filter options
Mae’r wefan hon yn newydd a dal yn cael ei datblygu.
Gweithiau Celf Themâu
Projectau ac Arddangosfeydd Erthyglau Cynfas Dysgu
Amdanom Ni Cysylltwch â ni
En
Gweithiau Celf Themâu Projectau ac Arddangosfeydd Erthyglau Cynfas Dysgu Amdanom Ni Cysylltwch â ni
Gwaith Celf Blaenorol Gwaith Celf Nesaf

Datgelu'i galon

KALIGHAT WORKSHOP,

Datgelu'i galon
Delwedd: Trwy ganiatâd Amgueddfa Cymru
 Chwyddo  

Arddull peintio poblogaidd penodol yw Kalighat a ddatblygodd yn ninas Calcutta yn 19eg ganrif a hynny yn y strydoedd o amgylch teml Kalighat, cyrchfan boblogaidd i bererinion. Gwaith artistiaid proffesiynol (patuas) yw’r darluniau dyfrlliw yma (a elwir yn ‘pats’) ac ynddynt gwelwn dduwiau a duwiesau Hindŵ a chymeriadau chwedlonol eraill. Byddai ymwelwyr â’r deml yn eu prynu fel cofroddion am bris oedd yn cyfateb i geiniog yr un. Yn eu harddull syml hyderus, eu llinellau cryf, y defnydd o liw llachar a rhythm gweledol maent yn debyg iawn i gelf fodern, ond yn y testunau a’u bwriad maent yn benodol i’r cyfnod a’r man y cawsant eu cynhyrchu. Er i filoedd o baentiadau Kalighat gael eu cynhyrchu yn y 19eg ganrif, prin yw’r rhai sydd wedi goroesi yn yr India oherwydd na fyddai casglwyr celf cyfoethog yn eu prynu. Mae 69 paentiad Kalighat yng nghasgliad yr Amgueddfa. Mae tarddiad y gweithiau cyn 1954 yn anhysbys, er ei bod yn debygol iddynt gael eu caffael yn ninas Calcutta tua 1873. Mae’r duw Hanuman, sydd ar lun mwnci, yn gymeriad canolog yn y chwedl epig, Ramayana. Drwy ei ddyfeisgarwch a’i ddewrder, mae’n trechu Brenin yr Ellyllon Ravana ac yn dod yn was mwyaf triw Rama. Un tro, er mwyn dangos cymaint oedd ei ffyddlondeb, dyma fe’n rhwygo’i frest ar agor a dyna lle roedd Rama a Sita yn eistedd ar ei galon.

Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.

Datganiad hawlfraint wedi'i ddarparu gan Amgueddfa Cymru

Manylion


Collection

Amgueddfa Cymru

Rhif yr Eitem

NMW A 11666

Creu/Cynhyrchu

KALIGHAT WORKSHOP,

Derbyniad

Source unknown, 1954

Techneg

Watercolour on paper on card
Drawings and watercolours
Fine Art - works on paper

Deunydd

Watercolour
Paper
cerdyn

Lleoliad

In store
Mwy

Tags


  • Celf Gain
  • Gweithiau Ar Bapur
  • Kalighat Workshop
  • Mudiadau Celf A Dylunio
  • Ysgol Kalighat

Rhannu


Mwy fel hyn


Amgueddfa Cymru
First Façade Suite
First Facade Suite
MALTHOUSE, Eric
© Eric Malthouse/Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
Rydyn ni’n gweithio ar ryddhau’r ddelwedd hon.
Gwydir Chapel
GASTINEAU, Henry
Amgueddfa Cymru
Rydyn ni’n gweithio ar ryddhau’r ddelwedd hon.
Wallpaper
TARR, James C.
Amgueddfa Cymru
Reclining Cat
Reclining Cat
JONES, David
© Ystâd David Jones. Cedwir Pob Hawl 2025/Bridgeman Images/Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
View in Vale of Beddgelert
AMES, Jeremiah
Trwy ganiatâd Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
Vesuvius
WILSON, Richard (after)
WHESSELL, John
Trwy ganiatâd Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
Hind Head Hill
COLLIER, T.
Trwy ganiatâd Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
Old man and angel
Old man and angel
JOHN, Sir William Goscombe
© Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
Pontypridd Lock, Near Glamorgan
ROOKER, Michael Angelo
Trwy ganiatâd Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
Sketch
SUTHERLAND, Graham
© Ystâd Graham Sutherland/Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
Chaffinch and Green finch
TUNNICLIFFE, Charles F
© Charles F Tunnicliffe/Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
Three Monumental slabs in Llantwit Major Church
THOMAS, Illtyd Treharne
Trwy ganiatâd Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
Sketchbook: Working drawings, related to ... decoration of Cardiff Castle
JOHN, Thomas
Trwy ganiatâd Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
Sketch of plant
SUTHERLAND, Graham
© Ystâd Graham Sutherland/Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
Rheinfels, St. Goar and Thurnberg
TURNER, Joseph Mallord William
Trwy ganiatâd Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
Prynu Dol Suite
MALTHOUSE, Eric
© Eric Malthouse/Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
Prynu Dol Suite
MALTHOUSE, Eric
© Eric Malthouse/Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
Conway Castle
HUGHES, Hugh
Trwy ganiatâd Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
First Facade Suite
MALTHOUSE, Eric
© Eric Malthouse/Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
A lioness
SWAN, John Macallan
Trwy ganiatâd Amgueddfa Cymru

  • Gweithiau Celf
  • Themâu
  • Projectau ac Arddangosfeydd
  • Erthyglau Cynfas
  • Dysgu

Y Wefan

  • Amdanom Ni
  • Mynediad
  • Cwestiynau cyffredin
  • Hawlfraint
  • Cwcis

CYSYLLTWCH Â Ni

  • Cysylltwch â ni
  • Instagram @celfarycyd
× ❮ ❯