Saif Llangollen ar lannau Afon Ddyfrdwy gerllaw Abaty Glyn y Groes a chastell Dinas Brân. Er 1776 hwn oedd cartref y Fonesig Eleanor Butler a Miss Sarah Ponsonby, 'The Ladies of Llangollen'. Byddai llawer o dwristiaid yn ymweld â'u cartref. Mae Ibbetson yn dangos merched yn nyddu a throelli gwlân o flaen eglwys Sant Collen, golygfa nodweddiadol o fywyd gwledig mewn tref a ddisgrifiwyd gan Thomas Pennant fel hyn; 'Ni wn am unman arall yng ngogledd Cymru lle gall y sawl sy'n hoffi golygfeydd darluniadol, pobl sentimental neu'r ymwelydd rhamantaidd ymroi mwy i'w pleser'.

Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.
Datganiad hawlfraint wedi'i ddarparu gan Amgueddfa Cymru