Gwahanu
JOHN, Sir William Goscombe
'Gwahanu' oedd llwyddiant mawr cyntaf Goscombe John, ac enillodd iddo Fedal Aur yr Academi Frenhinol ym 1889, a'i alluogi i deithio i Ewrop. Gosodwyd y testun gan bwyllgor yr Academi Frenhinol, a dehonglodd y cerflunydd ef drwy gyfrwng ffigwr hen ŵr yn dal ei fab ifanc sydd wedi marw. Roedd y diddordeb mewn effeithiau arwyneb, gyda gwahanol gwerfwedd i'r gwallt a'r croen, yn nodweddiadol o arddull y Gerflunwaith Newydd. Mae'r grŵp ffigyrau yn dangos dylanwad y cerflun enwog o 'Ugolino a'i Feibion 'gan Jean Baptiste Carpeaux, a welwyd gyntaf yn Salon Paris ym 1863
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.
Datganiad hawlfraint wedi'i ddarparu gan Amgueddfa Cymru
Mwy fel hyn
Amgueddfa Cymru
JOHN, Sir William Goscombe
Trwy ganiatâd Amgueddfa Cymru

Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
JOHN, Sir William Goscombe
Trwy ganiatâd Amgueddfa Cymru
