Ffigwr yn Arnofio
WESCHKE, Karl
Mae corff dynol difywyd yn ymddangos o ddyfroedd bas y traeth. Bydd Weschke yn aml yn portreadu pobl ar goll mewn tirwedd ddiffaith, mewn brwydr arswydus i oroesi. Mae’r portread tywyll hwn o ddynoliaeth yn adleisio gwaith Francis Bacon. Cyfarfu’r ddau am y tro cyntaf yn St Ives, Cernyw ym 1959. Gwasanaethodd Weschke yn y Luftwaffe yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Daeth i Brydaint ym 1945 fel Carcharor Rhyfel a oedd yn dioddef o effeithiau erchyllterau’r rhyfel, cyn ennill lle mewn coleg celf maes o law.
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.
Datganiad hawlfraint wedi'i ddarparu gan Amgueddfa Cymru