Red self-portrait
RHYS JAMES, Shani
Mae’r hunanbortread mawr hwn yn dangos yr artist wrth ei gwaith. Fel mwyafrif y golygfeydd o’i stiwdio, mae’r ystafell yn anniben gydag offer paentio ym mhobman, a gallwn weld motiff cyfarwydd y beret coch y bydd yn ei wisgo wrth weithio. Enillodd Hunanbortread Coch wobr gyntaf Cystadleuaeth Gelf Hunting/Observer 1993.
Ganwyd Shani Rhys-James yn Awstralia i rieni o Gymru ym 1953. Wedi astudio yng Ngholeg Celf Loughborough a Choleg Celf St Martins yn Llundain, symudodd i Gymru ym 1984. Yn St Martins cafodd ei dysgu gan Gillian Ayres, ymhlith eraill, a daeth nodweddion haniaethol paent yn elfen yn ei harddull drosiadol. Mae’n mwynhau gwead paent, ei liw a’i egni. Yn 2003 enillodd wobr baentio Jerwood.
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.
Datganiad hawlfraint wedi'i ddarparu gan Amgueddfa Cymru
Mwy fel hyn
Amgueddfa Cymru
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Amgueddfa Cymru
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Amgueddfa Cymru
RHYS JAMES, Shani
© Shani Rhys James. Cedwir Pob Hawl. DACS 2025/Amgueddfa Cymru

Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
JOHN, Augustus
© Ystâd Augustus John. Cedwir Pob Hawl 2025/Bridgeman Images/Amgueddfa Cymru

Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
RODNEY, Donald Gladstone
© Donald Gladstone Rodney/Amgueddfa Cymru
