Royal Game of Urm...?
Bwrdd gêm, siâp petryal sy'n seiliedig ar Gêm Frenhinol Ur.
Cafodd y gwrthrych gwreiddiol ei gloddio ym Mynwent Frenhinol Ur yn Irac, tua 1928 gan Syr Leonard Woolley, ac mae bellach yn rhan o gasgliad yr Amgueddfa Brydeinig - Rhif cofrestru 1928,1009.37. Cafodd ei gynhyrchu oddeutu 2600CC-2400CC. Er bod dehongliadau yn bodoli, nid oes ffordd glir o sut mae chwarae'r gêm.
Yn 2025 aeth y gof arian Will Romeril ati i ail-greu'r bwrdd gêm gydag 20 sgwâr sy'n cynnwys dyluniadau a gwybodaeth sy'n perthyn i ffeithiau ac ystadegau wedi'u canfod mewn adroddiadau'r llywodraeth, darparwr gwasanaeth a gwefannau data economaidd. Dyma adlewyrchiad ar y ffaith fod isadeiledd Prydain gyfoes yn gêm nad ydym ni'n gwybod sut i'w chwarae. Gyda'r teitl addas: Gêm Frenhinol Urm...?
Mae naill y gwrthrych yn yr Amgueddfa Brydeinig a'r gwaith celf hwn yn cynnwys 18 darn - 1 bwrdd gêm, 3 deis tetrahedrol, a 14 tocyn i chwaraewyr.
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.
Datganiad hawlfraint wedi'i ddarparu gan Amgueddfa Cymru
Manylion
Collection
Rhif yr Eitem
Creu/Cynhyrchu
Mesuriadau
Deunydd
Lleoliad
Tags
Rhannu
Mwy fel hyn