Tedeum
KITAJ, R.B.
Ganed Kitaj yn Ohio a daeth i Brydain ym 1958 a chael ei hyfforddi yn Rhydychen a'r Coleg Brenhinol. Mae Swrealaeth ac astudiaethau iconograffeg wedi dylanwadu'n drwm ar ei waith. Ffynhonnell y darlun hwn, a fynegir yn Saesneg fel Tedium, yw ffotograff o gynhyrchiad o 'No Exit 'gan Jean Paul Sartre. Y ffigwr anferth ar y dde yw Goethe, sy'n edrych allan drwy'r ffenestr. Mae'r ffordd lac y mae'n sefyll yn adlewyrchu'r teitl ac yn cyfeirio at 'Ennui,' sef darlun gan W.R Sickert sy'n cwmpasu anniddigrwydd dyn.
Sbardunwyd y pwnc Tedeum yn rhannol gan ffotograff o olygfa yn ffilm Jean-Paul Satre, No Exit. Drama yw hi am dri person marw wedi'u dal mewn ystafell wrth iddyn nhw sylweddoli'n raddol taw nhw yw arteithwyr ei gilydd, heb ddihangfa. Mae'r ffigwr bychan yn codi'i fraich yn y canol yn gyfeiriad at fudiad gwrth-Natsiaidd o'r enw White Rose. Tu ôl iddo mae cytiau a simneiau gwersylloedd crynhoi Iddewon – cydnabyddiaeth o wreiddiau Iddewig yr artist.
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.