Woman in profile
JOHN, Gwen
Mae hwn ymhlith y gweithiau olaf y gwyddys amdanyn nhw gan Gwen John. Defnyddir yr effaith sych, sialcog a greodd yn ei phaentiadau olew yma hefyd. Bu Gwen John yn arbrofi gyda phigmentau i greu effeithiau tonyddol gwahanol ac yma mae wedi cyfuno paent olew gyda chorffliw, dyfrlliw didraidd. Mae’n un o gyfres o weithiau sy’n defnyddio’r un cyfansoddiad.
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.
Datganiad hawlfraint wedi'i ddarparu gan Amgueddfa Cymru