Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i hwyluso’ch defnydd. Gweld ein Polisi Cwcis
Gosodiadau

Gosodiadau Cwcis

Angenrheidiol

Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.

Cwcis sy'n mesur defnydd y wefan

Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.

Cwcis sy'n helpu gyda chyfathrebu a marchnata

Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.

Gweld ein Polisi Cwcis

Image filter options
Mae’r wefan hon yn newydd a dal yn cael ei datblygu.
Gweithiau Celf Themâu
Projectau ac Arddangosfeydd Erthyglau Cynfas Dysgu
Amdanom Ni Cysylltwch â ni
En
Gweithiau Celf Themâu Projectau ac Arddangosfeydd Erthyglau Cynfas Dysgu Amdanom Ni Cysylltwch â ni
Gwaith Celf Blaenorol Gwaith Celf Nesaf

Astudiaeth o Ben

BURNE-JONES, Sir Edward
Astudiaeth o Ben
Delwedd: Trwy ganiatâd Amgueddfa Cymru
Chwyddo

Astudiaeth yw hon o un o'r cantorion yng nghefndir un o baentiadau enwocaf Edward Burne-Jones, 'King Cophetua and the Beggar Maid' (1884, Tate). Dechreuwyd cynllunio'r paentiad yng nghanol y 1870au a treuliodd Burne-Jones nifer o flynyddoedd yn perffeithio'r cyfansoddiad mewn cyfres o ddarluniau a lluniau dyfrlliw. Gwnaed mwyafrif y gwaith ar y paentiad terfynol ym 1883 a dechrau 1884 cyn cwblhau ac arddangos y gwaith yn Oriel Grosvenor, Llundain yng ngwanwyn 1884.

Mwy na thebyg taw'r gantores Jessie Keene (g.1872) yw'r model ar gyfer y darlun, neu o bosibl ei chware hŷn Laura (g.1867/8), fu hefyd yn modelu i'r artist James McNeill Whistler yn y 1880au. Roedd eu mam, Annie, yn modelu'n gyson i Burne-Jones, a gellir ei gweld mae'n debyg mewn gweithiau fel 'The Golden Stairs' (1880, Tate). Daeth chwaer arall, Bessie (g.1878/9), yn un o'i hoff fodelau yn y man a gellir ei gweld hi mewn gweithiau fel 'Vespertina Quies' (1893, Tate) a 'Love Among the Ruins '(1894, Maenordy Wightwick, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol).

Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.

Datganiad hawlfraint wedi'i ddarparu gan Amgueddfa Cymru

Manylion

Collection

Amgueddfa Cymru

Rhif yr Eitem

NMW A 244

Historical Associations

Association Type: Provenance
Associated Person/Body: Webb, Matthew
Association Type: Private collector
Associated Person/Body: Turner House
Association Type: Museum

Creu/Cynhyrchu

BURNE-JONES, Sir Edward
1833-1898
Rôl: Artist

Derbyniad

Transfer, 1921

Mesuriadau

Uchder (cm): 35.5
Lled (cm): 25.6
Uchder (in): 14
Lled (in): 10

Techneg

Oil on wooden panel
Techniques (fine art)
Art dept - fine
Fine Art - painting

Deunydd

Oil
Wood panel

Lleoliad

In store
Mwy

Tags

• Celf Gain
• Cyn-Raffaeliaeth
• Paentiad

Rhannu

Mwy fel hyn

Amgueddfa Cymru
Menyw Saudi yn ymlacio gartref, Jeddah, Saudi Arabia
Photographer: ARTHUR, Olivia
(2009)
© Olivia Arthur / Magnum Photos / Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru

Rydym yn cydnabod bod y gwrthrych hwn, y dehongliad, neu ddeunyddiau ategol yn ymdrin â phynciau sensitif. Ym mhob achos posib rydym yn ceisio dangos gweithiau mewn cyd-destun ac esbonio pam eu bod yn rhan o'r casgliad cenedlaethol. Mae hon yn broses barhaus.

Photographer: HURN David
(2016)
© David Hurn / Magnum Photos / Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
Rydyn ni’n gweithio ar ryddhau’r ddelwedd hon.
Vase
Production: Fritsch, Elizabeth
(1980-1990)
Amgueddfa Cymru
[No title]
Photographer: HURN David
(1964)
© David Hurn / Magnum Photos / Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru

Mae’r portread hyn yn dangos Williams fel dramodydd. Ganed Williams ym Mostyn, Sir y Fflint a chafodd ei addysg ym Mhrifysgol Rhydychen. Ymddangosodd ar lwyfan am y tro cyntaf ym 1927, ond daeth yn llwyddiannus dros nos gyda Night Must Fall (1935), drama gyffrous a ysgrifennwyd ganddo ac y bu’n serennu ynddi. Ymddangosodd Williams hefyd mewn llu o ffilmiau a dramâu radio. Mae ei sioeau llenyddol un dyn, genre theatraidd a ddyfeisiodd ei hun i raddau helaeth, wedi dod yn chwedlonol. Cafodd Williams ei gydnabod yn gyhoeddus fel dyn deurywiol cyn llawer o’i gyfoeswyr, ac ysgrifennodd yn agored am ei rywioldeb yn ei ddau hunangofiant.

McBEAN, Angus
(1938)
© Angus Mcbean/Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
[No title]
REMBRANDT, Harmensz van Rijn
(1648)
Trwy ganiatâd Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru

Several pages inscribed with captions. Fol i in ink `Peculiar Family'.

PARRY, John Orlando
Trwy ganiatâd Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
[No title]
Photographer: MELONI Lorenzo
(2016)
© Lorenzo Meloni / Magnum Photos / Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
[No title]
JOHN, Gwen
Trwy ganiatâd Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
[No title]
Photographer: HURN David
(2016)
© David Hurn / Magnum Photos / Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
[No title]
SUTHERLAND, Graham Vivian
© Ystâd Graham Sutherland/Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
Rydyn ni’n gweithio ar ryddhau’r ddelwedd hon.

Darn o bren syml sydd wedi'i dorri o goeden sydd wedi cwympo yw’r Wooden Boulder. Drwy ddefnyddio ffilm, ffotograffiaeth, cerflunwaith a lluniadu, llwyddodd David Nash i gofnodi ei daith a sut bu’n ymgysylltu â’r tywydd, disgyrchiant a’r tymhorau am chwarter canrif. O bryd i'w gilydd byddai'n ei helpu i symud, ond yn bennaf roedd yn caniatáu i natur bennu cwrs y clogfaen. Yn 2003, cafodd ei gludo i'r môr ac nid yw wedi'i weld ers hynny.

NASH, David
(1978-2003)
Amgueddfa Cymru
[No title]
Photographer: HURN David
(2013)
© David Hurn / Magnum Photos / Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
[No title]
Photographer: HURN David
(2016)
© David Hurn / Magnum Photos / Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
[No title]
Photographer: HURN David
© David Hurn / Magnum Photos / Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
[No title]
PALMER, Hannah
(1837)
Trwy ganiatâd Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru

Full title: One of the most famous restaurants in New York, perhaps in the world, the ''Forum'', decorated with painting of Roman figures. It is full for lunch with the millionaire business men of the district.

Photographer: HURN David
(1962)
© David Hurn / Magnum Photos / Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru

Yn 2008 daeth Michal Iwanowski, yr artist a aned yng Ngwlad Pwyl ac yn byw yng Nghaerdydd, ar draws graffiti ger ei gartref yn dweud 'Go Home, Polish'. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, yng nghanol cefndir Brexit ac Ewrop ranedig, ymgymerodd â thaith anhygoel dros 1900km ar droed rhwng Cymru a'i bentref genedigol, Mokrzeszów yng Ngwlad Pwyl. Ei nod oedd archwilio a deall y syniad o 'gartref'. Cymerodd y daith 105 diwrnod i'w chwblhau, a thrwy hynny fe bostiodd ddyddiadur o'i brofiadau a'i gyfarfyddiadau ar Instagram.

IWANOWSKI, Michal
(2018)
© Michal Iwanowski/Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
[No title]
Photographer: HURN David
(1980)
© David Hurn / Magnum Photos / Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
[No title]
JOHN, Gwen
Trwy ganiatâd Amgueddfa Cymru

• Gweithiau Celf
• Themâu
• Projectau ac Arddangosfeydd
• Erthyglau Cynfas
• Dysgu

Y Wefan

• Amdanom Ni
• Mynediad
• Cwestiynau cyffredin
• Hawlfraint
• Cwcis

CYSYLLTWCH Â Ni

• Cysylltwch â ni
• Instagram @celfarycyd