Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i hwyluso’ch defnydd. Gweld ein Polisi Cwcis
Gosodiadau

Gosodiadau Cwcis

Angenrheidiol

Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.

 

Cwcis sy'n mesur defnydd y wefan

Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.

 

Cwcis sy'n helpu gyda chyfathrebu a marchnata

Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.

 
 
Gweld ein Polisi Cwcis
×

Image filter options
Mae’r wefan hon yn newydd a dal yn cael ei datblygu.
Gweithiau Celf Themâu
Projectau ac Arddangosfeydd Erthyglau Cynfas Dysgu
Amdanom Ni Cysylltwch â ni
En
Gweithiau Celf Themâu Projectau ac Arddangosfeydd Erthyglau Cynfas Dysgu Amdanom Ni Cysylltwch â ni
Gwaith Celf Blaenorol Gwaith Celf Nesaf

Castell Dolbadarn

WILSON, Richard
Castell Dolbadarn
Delwedd: Trwy ganiatâd Amgueddfa Cymru
  Chwyddo / Rhagor o ddelweddau (4)

Gorthwr crwn Castell Dolbadarn yw canolbwynt y paentiad hwn gan Richard Wilson, artist hanesyddol mwyaf dylanwadol Cymru. Adeiladwyd Dolbadarn mwy na thebyg yn y 13eg ganrif gan Llywelyn Fawr, yn gaer bwysig yng Ngwynedd uwchlaw Llyn Padarn. Erbyn 1282 roedd hi ym meddiant byddin Lloegr, a’i phren yn cael ei ddefnyddio i adeiladu Castell Caernarfon gerllaw. Bu Dolbadarn yn bwysig yn ddiweddarach yn y frwydr am annibyniaeth yn ystod gwrthryfel Owain Glyndŵr, a saif heddiw yn gofnod o lwyddiannau a methiannau tywysogion Cymru. Teithiodd Richard Wilson i’r Eidal yn y 1750au a bu’n brofiad a weddnewidiodd ei waith. Gyda’r Wyddfa yn y cefndir mae’n amlwg taw tirlun Cymreig yw hwn, ond mae Wilson wedi cyflwyno nodweddion Italianate fel y ffermdy yng ngysgod y muriau. Mae wedi addasu elfennau o’r tirwedd gan greu cyfosodiad clasurol yn null Hen Feistri’r Eidal, gan roi urddas a grym i’r olygfa fu’n gymorth i ddyrchafu statws tirlun Cymru mewn cylchoedd diwylliedig. Paentiodd Wilson gastell Dolbadarn sawl gwaith, ac mae’n debyg fod y cyfosodiad hwn yn dyddio o 1764/5. Mae sgan pelydr-X wedi datgelu bod y castell wedi’i baentio dros bortread o fenyw.


Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.

Datganiad hawlfraint wedi'i ddarparu gan Amgueddfa Cymru

Manylion


Collection

Amgueddfa Cymru

Rhif yr Eitem

NMW A 72

Historical Associations

Association Type: Provenance
Associated Person/Body: Lloyd, Lewis
Association Type: Private collector
Associated Person/Body: Christie's
Association Type: Auction House
Date: 30/04/1937
Place: London, England

Creu/Cynhyrchu

WILSON, Richard
1714-1782 Richard Wilson, originally from Montgomeryshire, is often called ‘the Father of British landscapes’ for the key role he played in the development of the tradition, though he initially trained as a portrait painter. He became the first major artist to popularize images of Wales that went beyond topographical accuracy. Caiff Richard Wilson, sy’n wreiddiol o Sir Drefaldwyn, ei alw’n aml yn ‘Dad tirluniau Prydain’ am y rôl allweddol a chwaraeodd yn natblygiad y traddodiad, er iddo hyfforddi fel peintiwr portreadau i gychwyn. Ef oedd yr artist mawr cyntaf i boblogeiddio delweddau o Gymru oedd yn mynd y tu hwnt i gywirdeb topograffaidd.
Rôl: Artist
Cyfnod: 1765 ca

Derbyniad

Purchase, 30/4/1937

Mesuriadau

Uchder (cm): 92.4
Lled (cm): 126.2
Uchder (in): 36
Lled (in): 49
h(cm) frame:109
h(cm)
w(cm) frame:143.5
w(cm)
d(cm) frame:9.0
d(cm)

Techneg

Canvas

Deunydd

Oil

Lleoliad

on display

Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.

Mwy

Tags


  • Castell
  • Celf Gain
  • Cysylltiad Cymreig
  • Llyn
  • Mynyddoedd
  • Paentiad
  • Tirwedd

Rhannu


Mwy fel hyn


  • Gweithiau Celf
  • Themâu
  • Projectau ac Arddangosfeydd
  • Erthyglau Cynfas
  • Dysgu

Y Wefan

  • Amdanom Ni
  • Mynediad
  • Cwestiynau cyffredin
  • Hawlfraint
  • Cwcis

CYSYLLTWCH Â Ni

  • Cysylltwch â ni
  • Instagram @celfarycyd
× ❮ ❯