Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i hwyluso’ch defnydd. Gweld ein Polisi Cwcis
Gosodiadau

Gosodiadau Cwcis

Angenrheidiol

Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.

 

Cwcis sy'n mesur defnydd y wefan

Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.

 

Cwcis sy'n helpu gyda chyfathrebu a marchnata

Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.

 
 
Gweld ein Polisi Cwcis
×

Image filter options
Mae’r wefan hon yn newydd a dal yn cael ei datblygu.
Gweithiau Celf Themâu
Projectau ac Arddangosfeydd Erthyglau Cynfas Dysgu
Amdanom Ni Cysylltwch â ni
En
Gweithiau Celf Themâu Projectau ac Arddangosfeydd Erthyglau Cynfas Dysgu Amdanom Ni Cysylltwch â ni
Gwaith Celf Blaenorol Gwaith Celf Nesaf

Y Craen Rheiddiol

CLAUSEN, George
Y Craen Rheiddiol
Delwedd: Trwy ganiatâd Amgueddfa Cymru
 Chwyddo

Craen rheiddiol enfawr yw canolbwynt y llun hwn, craen arbenigol a ddefnyddiwyd mewn ffatri barilau gynnau. Meddyliodd Clausen yn ofalus iawn cyn creu'r ddelwedd - mae'r baril yn y canol yn creu llinell lorweddol i gydbwyso llinell fertigol y craen. Tirluniau oedd arbenigedd Clausen, ac mae'n debyg ei fod yn trin yr olygfa o'r gweithdy fel tirlun, yn uno dyn a pheiriant.

Bu Clausen yn ymchwilio ar gyfer y printiau hyn yn Ffatri Ynnau Frenhinol Woolwich Arsenal, Llundain a oedd yn cynhyrchu arfau, bwledi a ffrwydron ar gyfer lluoedd arfog Prydain. Ar ei anterth yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd y ffatri'n cyflogi tua 80,000 o bobl ac yn ymestyn dros 1,300 o erwau. Penodwyd Clausen yn artist rhyfel swyddogol ym 1917 ac oherwydd ei oed, bu'n cofnodi gweithgareddau gartref yn hytrach nag ymweld â maes y gad.

Ganwyd Clausen yn Llundain yn fab i George Clausen Senior, paentiwr o fri o dras Danaidd. Aeth i'r Coleg Celf Brenhinol ac ysgolion celf South Kensington, yna'r Académie Julian ym Mharis. Ef oedd un o sylfaenwyr y New English Art Club a chafodd ei ethol yn Athro Arlunio'r Academi Frenhinol ym 1904. Fe'i urddwyd yn farchog ym 1927.

Mae'r gwaith hwn yn rhan o bortffolio 'The Great War: Britain's Efforts and Ideals,' gyfres o 66 print lithograffig eu comisiynu gan y Weinyddiaeth Wybodaeth ym 1917 i ysbrydoli'r cyhoedd, oedd wedi cael digon ar ryfel, a'u hannog i ymroi i'r Frwydr.


Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.

Datganiad hawlfraint wedi'i ddarparu gan Amgueddfa Cymru

Manylion


Collection

Amgueddfa Cymru

Rhif yr Eitem

NMW A 13180

Creu/Cynhyrchu

CLAUSEN, George
Clausen was born in London to George Clausen Senior, a decorative painter of Danish descent. He attended the Royal College of Art and South Kensington art schools, then the Académie Julian in Paris. He was a founding member of the New English Art Club and was elected Professor of Painting at the Royal Academy in 1904. He was knighted in 1927.
Rôl: Artist
Cyfnod: 1917

Derbyniad

Gift, 19/2/1919

Mesuriadau

h(cm) sheet size:40.3
h(cm)
w(cm) sheet size:50.9
w(cm)

Techneg

Lithograph on paper
Lithograph
Planographic printing
Prints
Fine Art - works on paper

Deunydd

Ink
Paper

Lleoliad

In store
Mwy

Tags


  • Celf Gain
  • Ffatri
  • Gweithiau Ar Bapur
  • Rhyfel Byd Cyntaf, Y Rhyfel Mawr
  • Ôl 1900

Rhannu


Mwy fel hyn


Amgueddfa Cymru
[No title]
JACKSON, Samuel
Trwy ganiatâd Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
[No title]
JOHN, Augustus
© Ystâd Augustus John. Cedwir Pob Hawl 2025/Bridgeman Images/Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
[No title]
WILLIAMS, Warren
Trwy ganiatâd Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
[No title]
SUTHERLAND, Graham Vivian
(20th century - (second half))
© Ystâd Graham Sutherland/Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
[No title]
BOURNE, James
Trwy ganiatâd Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
[No title]
JOHN, Gwen
Trwy ganiatâd Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
<p>landscape</p>
WOODFORD, David
(1978)
© David Woodford/Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
<p>Roedd Nerys Johnson, a anwyd ym Mae Colwyn, yn guradur ac artist uchel ei pharch. Roedd hi’n byw gydag arthritis rhiwmatoid, salwch cynyddol a chronig sy’n achosi poen, chwydd ac anhyblygrwydd yn y cymalau. O ganlyniad, daeth ei gwaith yn llai o ran maint a daeth mwy o ffocws i’w gwaith wrth i’w symudedd gyfyngu. Yma, mae Johnson yn defnyddio lliwiau cefndir tywyll a gofod negyddol i bwysleisio disgleirdeb lliw a strwythur ffurfiau. Blodau oedd prif destun celf Nerys Johnson, yn enwedig yn neg mlynedd olaf ei bywyd. Yn y cyfnod hwn, roedd yn gaeth i’r tŷ fel arfer, ond roedd hi’n dal yn gallu cael gafael ar flodau fel testun brasluniau a phaentiadau. Roedd hi wrth ei bodd â’u lliwiau, gan gyfeirio at flodau fel ‘bocs paent byd natur’. Ei ffefrynnau i’w paentio oedd ‘y rhai gyda lliw cryf a ffurf drawiadol, fel tiwlipau, artisiogau, blodau haul, gerbera, pabïau, lilis ac irisau’. ‘Mae blodau wedi bod yn ffynhonnell bwysig o ysbrydoliaeth ar gyfer fy ngwaith ers amser maith. Mae nhw’n fyw, a dwi’n ceisio cyfleu y bywyd hwnnw. Maen nhw’n tyfu, yn newid, yn p ydru ac yn transnewid. Mewn braslun, caiff ymdeimlad o symudiadau, strwythur a rhythmau eu cyfleu drwy farciau a llinellau; mewn paentiad, caiff ei gyfleu drwy gydbwysedd a chyferbyniad lliwiau’. - Nerys Johnson</p>
JOHNSON, Nerys
(2000)
© Ystâd Nerys Johnson/Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
[No title]
GODWIN, Judith
(1978)
© Judith Godwin/Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
[No title]
SUTHERLAND, Graham Vivian
(1950)
© Ystâd Graham Sutherland/Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
[No title]
Photographer: CARLIN, Jocelyn
(1994)
© Jocelyn Carlin/Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
[No title]
Photographer: JOYCE, Paul
(1979)
©Paul Joyce/Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
[No title]
Photographer: JOYCE, Paul
(1979)
©Paul Joyce/Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
[No title]
Photographer: JOYCE, Paul
(1976)
©Paul Joyce/Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
[No title]
GOODWIN, Albert
Trwy ganiatâd Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
[No title]
JOHN, Augustus
© Ystâd Augustus John. Cedwir Pob Hawl 2025/Bridgeman Images/Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
[No title]
EVANS, Powys
(1925)
© Powys Evans/Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
[No title]
JOHN, Thomas
(1873)
Trwy ganiatâd Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
[No title]
WILSON, Richard
(1754 ca)
Trwy ganiatâd Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
[No title]
SUTHERLAND, Graham Vivian
(1974)
© Ystâd Graham Sutherland/Amgueddfa Cymru

  • Gweithiau Celf
  • Themâu
  • Projectau ac Arddangosfeydd
  • Erthyglau Cynfas
  • Dysgu

Y Wefan

  • Amdanom Ni
  • Mynediad
  • Cwestiynau cyffredin
  • Hawlfraint
  • Cwcis

CYSYLLTWCH Â Ni

  • Cysylltwch â ni
  • Instagram @celfarycyd
× ❮ ❯