Abkhazia, Sukhum. Yn ystod rhyfel 1993 gyda Georgia, bu farw dros 10,000 o bobl a gorfodwyd cannoedd o bobl nad oeddent yn Abkhaziaid i ffoi o'r wlad, gan adael dinas yn dadfeilio.
BENDIKSEN, Jonas
Wedi ei ysgrifennu ar gefn y gwaith hwn: "Un o'r pethau abswrd am ffotograffiaeth yw faint o luniau mae rhywun yn eu tynnu sydd yn y pen draw yn aros mewn bocs, byth i'w gweld eto. Mae bron i bob un o'r delweddau rydw i erioed wedi'u tynnu wedi eu rhoi mewn bocs heb eu gweld. Tynnais y llun yma yn Abkhazia yn 2005, pan oeddwn i'n gweithio ar fy llyfr Satellites. Mae'n dangos merched yn gwneud eu gwallt o flaen bloc fflatiau sydd wedi’i fomio. Roedd hi'n foment ddynol hyfryd. Ond yn ddiweddarach yr un noson honno cymerais lun arall o hen wraig yn cerdded o flaen yr un adeilad oedd ychydig yn fwy dramatig. Ac yn union fel 'na, roedd yn rhaid i lun y pedair merch fynd." — Jonas Bendiksen
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.