William Lloyd, Grwychwr a Thorrwr Ffosydd
HOUTHUESEN, Albert
Ganwyd Albert Houthuesen yn Amsterdam a bu'n astudio yn Llundain. Yn ystod y 1930au, bu ef a'i wraig Catherine yn ymweld â Threlogan, ger Glofa'r Parlwr Du, yn flynyddol, gan aros mewn bwthyn oedd ym meddiant ei theulu hi. Ymddiddorai'n fawr ym mhobl ac arferion Trelogan a'r pentrefi o amgylch, a bywyd y glowyr yn y pwll. Tra bu yno peintiodd bortreadau ar raddfa fawr o bobl oedd yn agos at waelod yr hierarchaeth gymdeithasol. Gan iddo gael ei fagu mewn tlodi mawr ei hun roedd yn eu hystyried gydradd ag ef, a daeth a dwyster i'r peintiadau hyn na welir yn aml ym mhortreadau'r dydd. Y gwaith hwn yw un o'i rai mwyaf.
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.