Cŵn Gwyllt
Howell, Catrin
Mae dau gi gwyllt yn dringo ar ben ei gilydd wrth iddyn nhw geisio dianc rhag dŵr glaswyrdd y môr wrth iddo godi. Cyfeiriad yw hyn at chwedl Cantre’r Gwaelod, teyrnas a foddwyd gan ddyfroedd Bae Ceredigion. Mae’r artist wedi dal ysbryd gwyllt yr anifeiliaid, sy’n ymddangos fel pe baen nhw’n helpu ei gilydd yn hytrach nag ymladd.
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.
Datganiad hawlfraint wedi'i ddarparu gan Amgueddfa Cymru