Llangrannog, Bore Ffres
WILLIAMS, Christopher
Mae'n fore ffres ar y traeth yn Llangrannog. Fe welwn ni donnau penwyn y môr garw yn torri ar y lan. Ond mae pobl yn dal allan yn mwynhau, yn padlo yn y dŵr a throchi'u traed yn y pyllau.
Paentiwyd y llun hwn tua 1917 gan yr artist Christopher Williams. Cafodd ei eni ym Maesteg a dod yn un o artistiaid enwocaf Cymru yn y cyfnod. Roedd yn caru arfordir Cymru, ac fe baentiodd olygfeydd droeon ar ei deithiau rhwng Llangrannog a Phenrhyn Llŷn.
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.
Datganiad hawlfraint wedi'i ddarparu gan Amgueddfa Cymru
Mwy fel hyn
Amgueddfa Cymru
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Llyfrgell Genedlaethol Cymru