Onse ac Alex, Copenhagen, Denmarc
SOBOL, Jacob Aue
Delwedd: © Jacob Aue Sobol / Magnum Photos / Amgueddfa Cymru
Ar gyfer unrhyw ymholiadau ynghylch trwyddedu ac atgynhyrchu'r ddelwedd hon, cysylltwch â Magnum Photos: licensingall@magnumphotos.com
Wedi ei ysgrifennu ar gefn y gwaith hwn:
"Pan fyddaf yn edrych ar fy silffoedd, dw i'n gweld dwsinau a dwsinau o ffolderi gyda negatifau ... projectau fel Sabine, Tokyo... ac yn dal heb eu cyhoeddi, The Gomez-Brito Family, Bangkok, Home. Dw i'n tynnu ffolder o Home — cannoedd o roliau, efallai miloedd o'r pum mlynedd diwethaf, y rhan fwyaf ohonynt heb eu gweld, y rhan fwyaf ohonynt byth i'w cyhoeddi. Dw i'n troi'r tudalennau. Mae lluniau o'r bobl dw i wedi cwrdd â nhw, lleoedd ac adeiladau'n ymddangos mewn llif cyson. Dyma a welais i’r diwrnod hwnnw; dyna sut roeddwn i'n teimlo. Yna dwi'n adnabod y croen: Onse ac Axel. Fydda i byth yn anghofio’r diwrnod hwnnw, y diwrnod y cwrddais ag Onse ac Axel, a'r cariad a wnaethant ei rannu. Mae Axel yn 90 oed. 'Mae'n rhaid i chi gwrdd â fy nghariad,' meddai, 'mae hi ddeng mlynedd yn hŷn na mi!' Mae'n dweud wrthyf am Onse a sut y gwnaethon nhw syrthio mewn cariad ar wyliau yn Bangkok. Mae'n fy ngwahodd i ymweld â nhw yn nhŷ Onse. Mae Onse yn 100 oed ac yn byw ar ei phen ei hun. Dydy hi erioed wedi bod yn briod. Arferai fod yn ffotograffydd ac roedd wedi teithio i bob cwr o’r byd. Mae hi'n dal i freuddwydio amdano. Maen nhw'n byw ar wahân, ond bob penwythnos mae Axel yn dod i ymweld â hi. Ar y dydd Sadwrn yma yng ngwanwyn 2010, maen nhw'n fy ngwahodd i mewn. Dw i'n tynnu llun ohonynt yn cofleidio ac yn anwesu ei gilydd. Mae gan Onse lawer o glwyfau ar ei chorff, felly mae Axel yn dyner iawn pan fydd yn ei chyffwrdd. Dw i'n clywed Onse yn mynegi ei chysur, yn griddfan gan lawenydd. Mae Axel yn dweud wrthyf y buon nhw’n dal i garu’n y gwely tan ddwy flynedd yn ôl, ond erbyn hyn mae gan Onse wely arbennig o'r ysbyty a does dim lle i Axel. ‘Ond rydyn ni'n dal i gusanu,’ meddai Axel. Ac felly maen nhw'n dechrau cusanu. Mae'r llun cyntaf yn teimlo'n iawn. Cyn i mi ddechrau meddwl. Cyn i mi ddechrau fframio. Cyn i mi ofyn iddyn nhw wneud hynny eto. Y gusan gyntaf yw'r gorau." — Jacob Aue Sobol
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.
Datganiad hawlfraint wedi'i ddarparu gan Amgueddfa Cymru
Mwy fel hyn
Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
SOBOL, Jacob Aue
© Jacob Aue Sobol / Magnum Photos / Amgueddfa Cymru

Amgueddfa Cymru
HURA, Sohrab
© Sohrab Hura / Magnum Photos / Amguedfa Cymru

Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
HURN, David
© David Hurn / Magnum Photos / Amgueddfa Cymru

Amgueddfa Cymru
JONES, David
© Ystâd David Jones. Cedwir Pob Hawl 2025/Bridgeman Images/Amgueddfa Cymru

Amgueddfa Cymru
BROWN, Michael Christopher
© Michael Christopher Brown / Magnum Photos / Amgueddfa Cymru

Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Jones, Margaret D
© Jones, Margaret D/The National Library of Wales

Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Jones, Margaret D
© Jones, Margaret D/The National Library of Wales

Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Amgueddfa Cymru
GLINN, Burt
© Burt Glinn / Magnum Photos / Amgueddfa Cymru

Amgueddfa Cymru
HURN, David
© David Hurn / Magnum Photos / Amgueddfa Cymru

Amgueddfa Cymru