Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i hwyluso’ch defnydd. Gweld ein Polisi Cwcis
Gosodiadau

Gosodiadau Cwcis

Angenrheidiol

Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.

Cwcis sy'n mesur defnydd y wefan

Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.

Cwcis sy'n helpu gyda chyfathrebu a marchnata

Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.

Gweld ein Polisi Cwcis

Image filter options
Mae’r wefan hon yn newydd a dal yn cael ei datblygu.
Gweithiau Celf Themâu
Projectau ac Arddangosfeydd Erthyglau Cynfas Dysgu
Amdanom Ni Cysylltwch â ni
En
Gweithiau Celf Themâu Projectau ac Arddangosfeydd Erthyglau Cynfas Dysgu Amdanom Ni Cysylltwch â ni
Nôl Gwaith Celf Nesaf

Golygfa o Afon Gwy

JONES, Thomas
Golygfa o Afon Gwy
Delwedd: Trwy ganiatâd Amgueddfa Cymru
Chwyddo / Rhagor o ddelweddau (2)

Yn y braslun olew bychan hwn gwelwn ffigyrau mewn cychod yn hwylio ar hyd Afon Gwy dan awyr gymylog. Roedd Afon Gwy yn gyrchfan boblogaidd i artistiaid, awduron ac ymwelwyr, yn enwedig wedi i William Gilpin gyhoeddi Observations on the River Wye ym 1782. Honnai Gilpin bod yr afon yn esiampl o’r picturesque – ‘y math o brydferthwch sy’n weddus mewn darlun’ – a buan y daeth yr ardal yn gyrchfan i dwristiaid ar deithiau Picturesque ffasiynol. Denwyd Thomas Jones at Afon Gwy cyn i syniadau William Gilpin ddod yn boblogaidd. Cafodd ei hudo ganddi ac fe’i paentiodd nifer o weithiau, cyn ysgrifennu cerdd iddi yn ei henaint, Petraeia (1795). Credwn i Thomas baentio’r braslun hwn ym 1772, tra’n ymweld â’i deulu ym Mhencerrig cyn teithio i’r Eidal. Os felly, dyma un o’r paentiadau cynharaf o’r afon. Mwy na thebyg taw golygfa gyfansawdd ydyw – cyfuniad o sawl elfen o wahanol leoliadau. Canfuwyd y gwaith gan Miles Wynn Cato, oedd hefyd yn gyfrifol am y gwaith ymchwil sy’n sail i’r wybodaeth hon. Cadarnhawyd y dyddiad tebygol ac enw’r artist gan Greg Smith, cyd-olygydd catalog Thomas Jones 2003.

Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.

Datganiad hawlfraint wedi'i ddarparu gan Amgueddfa Cymru

Manylion

Collection

Amgueddfa Cymru

Rhif yr Eitem

NMW A 24960

Historical Associations

Associated Person/Body: Private Collection
Association Type: Provenance

Creu/Cynhyrchu

JONES, Thomas
1742-1803 Thomas Jones, a pupil of Richard Wilson, came from a wealthy landowning family in Radnorshire. During his lifetime he was known as a painter of landscapes and history paintings in the style of his master, but today he is better known for his oil sketches of Italy and Wales. Daeth Thomas Jones, oedd yn un o ddisgyblion Richard Wilson, o deulu o dirfeddiannwyr cyfoethog yn Sir Faesyfed. Yn ystod ei fywyd cafodd ei adnabod fel peintiwr tirluniau a pheintiadau hanesyddol yn null ei feistr, ond heddiw mae’n fwy adnabyddus am ei frasluniau olew o’r Eidal a Chymru
Rôl: Artist
Lle: River Wye
Cyfnod: 1770 ca

Derbyniad

Purchase, 13/3/2020

Mesuriadau

Uchder (cm): 19
Lled (cm): 29
Dyfnder (cm): 1
h(cm) frame:38.5
h(cm)
w(cm) frame:49
w(cm)
d(cm) frame:5
d(cm)

Techneg

Oil on paper
Techniques (fine art)
Art dept - fine
Fine Art - painting

Deunydd

Oil paint

Lleoliad

In store
Mwy

Tags

• Celf Gain
• Paentiad

Rhannu

Mwy fel hyn

Amgueddfa Cymru

abstract

JANES, Alfred
© Ystâd Alfred Janes. Cedwir Pob Hawl 2025/Bridgeman Images/Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru

Un llun yw hwn o grŵp o bortreadau a gomisiynwyd gan y diwydiannwr Francis Crawshay yn y 1830au. Mae pob un o’r gweithwyr – dynion i gyd – yn grefftwyr a gwŷr di-grefft o weithfeydd dur Hirwaun a gweithfeydd tunplat Trefforest. Peth anghyffredin oedd i un o gewri diwydiant gomisiynu portreadau unigol o’i weithwyr, ond nid diwydiannwr cyffredin oedd Francis Crawshay. Adeiladodd fwthyn bychan i’w hun yn hytrach na byw ym mhlasty’r teulu, a doedd dim diddordeb ganddo yn arferion busnes y Crawshays: cwynai ei dad ei fod yn gwario arian fel y dŵr. Ef oedd unig siaradwr Cymraeg y teulu, a byddai’n fwy tebygol i chi ei weld yn rhannu sgwrs gyda’i weithwyr nag yn eu gorchymyn. Enw hoffus y gweithwyr amdano oedd ‘Mr Frank’. Ddechrau’r 1830au cymerodd Francis yr awennau yng Gweithfeydd Dur Hirwaun, a brynwyd gan ei dad ym 1819, a’r gweithfeydd tunplat newydd yn Nhrefforest. Comisiynwyd portreadau’r gweithwyr oddeutu 1835, ac maent wedi’u priodoli i’r artist teithiol W J Chapman. Arhosodd y set ym meddiant y teulu Crawshay drwy ewyllys, ac mae’n bosib bod mwy yn wreiddiol – mae cofnod o un arall sydd bellach ar goll i bob tebyg.

CHAPMAN, W. J. (attributed to)
(1835-1840)
Trwy ganiatâd Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
Blodau a Sidan: Symffoni Las
BOMBERG, David
(1947)
© Ystâd David Bomberg. Cedwir Pob Hawl. DACS 224/Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
Rydyn ni’n gweithio ar ryddhau’r ddelwedd hon.

Poster for the Empire Marketing Board 1934

LINTOTT, Edward Barnard
Amgueddfa Cymru
Rydyn ni’n gweithio ar ryddhau’r ddelwedd hon.
[No title]
TS'AI HSIA-LING
Amgueddfa Cymru

red nail varnish? ?Helena Rubinstein

SUTHERLAND, Graham Vivian
© Ystâd Graham Sutherland/Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru

Mae Cedric Morris wedi paentio ei bartner Arthur Lett-Haines mewn siwt a het fowler yn cerdded drwy ddinas ryfedd, ddychmygus. Roedd y ddau ar y pryd yn byw ac yn gweithio ym Mharis, a Cedric Morris (a fagwyd ger Abertawe) yn arbrofi â datblygiadau diweddaraf celf fodern.

MORRIS, Cedric
(1923)
© Ystâd Cedric Morris. Cedwir Pob Hawl 2025/Bridgeman Images/Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
Eglwys Gadeiriol Rouen: Machlud Haul
MONET, Claude
(1892-1894)
Trwy ganiatâd Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru

Ganwyd Roger Cecil i deulu o lowyr yn Abertyleri ym 1942. Mae Noson o Aeaf gydag Angharad, rhif 7 yn un o gyfres o baentiadau a wnaed o blaster ganddo. Edrychwch yn ofalus ar y plaster tonnog a gallwch weld siapiau sy’n cynrychioli’r dirwedd a’r corff dynol.

CECIL, Roger
(2006)
© Ystâd Roger Cecil/Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
[No title]
JONES, David
(1924)
© Ystâd David Jones. Cedwir Pob Hawl 2025/Bridgeman Images/Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
[No title]
WILLIAMS, H.W TURNER, C.
(1813)
Trwy ganiatâd Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
[No title]
JONES, David
© Ystâd David Jones. Cedwir Pob Hawl 2025/Bridgeman Images/Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
[No title]
THOMAS, Thomas Henry
Trwy ganiatâd Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
[No title]
JONES, David
(1924)
© Ystâd David Jones. Cedwir Pob Hawl 2025/Bridgeman Images/Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
Peintiad
PIPER, John
(1935)
© Ystâd Piper/DACS 2025/Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
[No title]
HOUSE, Gordon
© Gordon House/Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
[No title]
BURNS, Brendan Stuart
(2009)
© Brendan Stuart Burns/Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
[No title]
BURNS, Brendan Stuart
(2009)
© Brendan Stuart Burns/Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
[No title]
GINSBORG, Michael
(20th century - (second half))
© Michael Ginsborg/Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
Glaw - Auvers
GOGH, Vincent van
(1890)
Trwy ganiatâd Amgueddfa Cymru

• Gweithiau Celf
• Themâu
• Projectau ac Arddangosfeydd
• Erthyglau Cynfas
• Dysgu

Y Wefan

• Amdanom Ni
• Mynediad
• Cwestiynau cyffredin
• Hawlfraint
• Cwcis

CYSYLLTWCH Â Ni

• Cysylltwch â ni
• Instagram @celfarycyd