Margaret Haig Thomas (1883-1958), Viscountess Rhondda
BURTON, Alice Mary
Menyw fusnes, swffragét ac ymgyrchydd oedd Margaret Haig Thomas sydd wedi’i disgrifio fel un o ffigurau gwleidyddol hynotaf Cymru. Yn ferch i ddiwydiannwr glo, defnyddiodd ei sefyllfa freintiedig mewn cymdeithas i hyrwyddo gwleidyddiaeth adain chwith, ffeministiaeth, llenyddiaeth a'r celfyddydau. Yn 1920, sefydlodd Time and Tide, sef cylchgrawn wythnosol yn hyrwyddo achosion ffeministaidd ac asgell chwith, gyda bwrdd blaengar oedd yn cynnwys menywod yn unig. Yn ystod ymgyrch dros y bleidlais a arweiniwyd gan Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Menywod yn 1913, ceisiodd ffrwydro bocs llythyron a chafodd ei charcharu ac aeth ar streic newyn.
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.