Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i hwyluso’ch defnydd. Gweld ein Polisi Cwcis
Gosodiadau

Gosodiadau Cwcis

Angenrheidiol

Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.

 

Cwcis sy'n mesur defnydd y wefan

Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.

 

Cwcis sy'n helpu gyda chyfathrebu a marchnata

Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.

 
 
Gweld ein Polisi Cwcis
×

Image filter options
Mae’r wefan hon yn newydd a dal yn cael ei datblygu.
Gweithiau Celf Themâu
Projectau ac Arddangosfeydd Erthyglau Cynfas Dysgu
Amdanom Ni Cysylltwch â ni
En
Gweithiau Celf Themâu Projectau ac Arddangosfeydd Erthyglau Cynfas Dysgu Amdanom Ni Cysylltwch â ni
Nôl Gwaith Celf Blaenorol Gwaith Celf Nesaf

Ar ôl bod yn y rhyfel, cafodd yr arlunydd ei hyforddi yn Ysgol y Slade ym 1919-22 ac ymunodd â'r Coleg Brenhinol fel Athro Peintio ym 1923. Ym 1930-59 bu'n dysgu yn y Slade. Mae'r portread gwrthrychol hwn gyda'i ddylunio clir, cynildeb ei wead a'i liw tawel yn nodweddiadol o'r arddull beintio a gai ei meithrin gan y Slade. Y ddynes a fyddai'n glanhau i fam Gwynne-Jones oedd Mrs Smith. Dengys y fframiau darluniau, y brwsys ac offer arall yr arlunydd yn y cefndir ei bod yn sefyll yn ei stiwdio.

GWYNNE-JONES, Allan
<p>Ar ôl bod yn y rhyfel, cafodd yr arlunydd ei hyforddi yn Ysgol y Slade ym 1919-22 ac ymunodd â'r Coleg Brenhinol fel Athro Peintio ym 1923. Ym 1930-59 bu'n dysgu yn y Slade. Mae'r portread gwrthrychol hwn gyda'i ddylunio clir, cynildeb ei wead a'i liw tawel yn nodweddiadol o'r arddull beintio a gai ei meithrin gan y Slade. Y ddynes a fyddai'n glanhau i fam Gwynne-Jones oedd Mrs Smith. Dengys y fframiau darluniau, y brwsys ac offer arall yr arlunydd yn y cefndir ei bod yn sefyll yn ei stiwdio.</p>
Delwedd: © Ystâd Allan Gwynne-Jones. Cedwir Pob Hawl 2025/Bridgeman Images/Amgueddfa Cymru
 Chwyddo

Ar ôl bod yn y rhyfel, cafodd yr arlunydd ei hyforddi yn Ysgol y Slade ym 1919-22 ac ymunodd â'r Coleg Brenhinol fel Athro Peintio ym 1923. Ym 1930-59 bu'n dysgu yn y Slade. Mae'r portread gwrthrychol hwn gyda'i ddylunio clir, cynildeb ei wead a'i liw tawel yn nodweddiadol o'r arddull beintio a gai ei meithrin gan y Slade. Y ddynes a fyddai'n glanhau i fam Gwynne-Jones oedd Mrs Smith. Dengys y fframiau darluniau, y brwsys ac offer arall yr arlunydd yn y cefndir ei bod yn sefyll yn ei stiwdio.


Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.

Datganiad hawlfraint wedi'i ddarparu gan Amgueddfa Cymru

Manylion


Collection

Amgueddfa Cymru

Rhif yr Eitem

NMW A 2048

Creu/Cynhyrchu

GWYNNE-JONES, Allan
1892-1982
Rôl: Artist

Derbyniad

Purchase, 10/3/1941

Mesuriadau

Uchder (cm): 61
Lled (cm): 50.6
Uchder (in): 24
Lled (in): 19

Techneg

Oil on canvas
Techniques (fine art)
Art dept - fine
Fine Art - painting

Deunydd

Oil
Canvas

Lleoliad

In store
Mwy

Tags


  • Celf Gain
  • Paentiad

Rhannu


Mwy fel hyn


Amgueddfa Cymru
[No title]
Photographer: SANGUINETTI Alessandra
(2005)
© Alessandra Sanguinetti / Magnum Photos / Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
[No title]
Photographer: PINKHASSOV Gueorgui
(1976)
© Gueorgui Pinkhassov/ Magnum Photos / Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
[No title]
SMITH, John "Warwick"
(1795)
Trwy ganiatâd Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
[No title]
Photographer: Tony, RAY-JONES
(1971)
© Tony Ray-Jones/Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
[No title]
SUTHERLAND, Graham Vivian
© Ystâd Graham Sutherland/Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
<p>Mae telynor dall tlawd yn eistedd ar fainc, ei delyn yn pwyso yn erbyn ei ysgwydd chwith, ci wrth ei ochr. Wedi'u gwasgaru o'i amgylch mae rhywfaint o eiddo: ffon gerdded, pâr o fenig, a dau fath o ebill i diwnio’r delyn. Mae poster wedi'i rolio dan y fainc yn awgrymu ei fod yn cystadlu, neu wedi bod yn cystadlu, mewn Eisteddfod. Mae telyn fechan wedi'i phinio i'w siaced. Roedd y rhain weithiau'n cael eu rhoi fel gwobrau yn yr Eisteddfod ar gyfer perfformiadau ar y delyn. Wrth ei ochr ar y fainc mae jwg cwrw o grochenwaith caled a elwir yn 'jwg hela' gan eu bod yn aml yn cael eu haddurno â golygfeydd hela gwledig. Mae’r jwg yn awgrymu dathliadau - er nad yw'r telynor yma yn edrych yn llawen iawn! Roedd telynau'n aml yn cael eu canu mewn tafarndai, yn yr awyr agored, ac mewn eisteddfodau fel cyfeiliant ar gyfer dawnsio, canu ac adrodd. Ond erbyn y 19eg ganrif, roedd y delyn deires yn llai poblogaidd, er i Arglwyddes Llanofer ac eraill geisio adfywio'r traddodiad.⁠ ⁠ Roedd rhai pobl yn beio anghydffurfwyr piwritanaidd am y dirywiad ym mhoblogrwydd y delyn, am iddynt lywio pobl i ffwrdd o bleserau synhwyraidd 'pechadurus' fel cerddoriaeth a dawnsio. Yn 1802, ysgrifennodd Edward Jones 'mae Cymru, a oedd yn un o wledydd hapusaf y byd gynt, ar ei ffordd i fod y diflasaf'. Canu'r delyn oedd un o'r ychydig opsiynau ar gael i bobl ddall adeg hynny. Tua 1823, sefydlwyd cymdeithas yn Aberhonddu i ddysgu bechgyn dall i ganu'r delyn deires. Roedd hyn yn ymgais i adfywio traddodiad y delyn deires, yn ogystal ag ymgais i roi modd i bobl ddall gynnal eu hunain. Ond tlawd a fu llawer o delynorion dall. Mae hyn yn bwydo mewn i gysylltiadau ystrydebol rhwng dallineb a thlodi, dirywiad cymdeithasol a cholled. O dan y llun, mae dyfyniad o Caniad y Gog i Feirionydd, alaw werin boblogaidd gan y bardd Lewis Morris (Llewelyn Ddu o Fôn). ⁠⁠ Ar waelod y dudalen mae'r geiriau 'Telyn Fwyn Cymru', wedi'u hysgrifennu yn yr wyddor farddol a ddyfeisiwyd gan Iolo Morganwg. Roedd yr artist John Orlando Parry hefyd yn gerddor, ac yn ddigrifwr poblogaidd. Wedi'i annog gan ei dad, John Parry (Bardd Alaw), roedd hefyd wedi dysgu i ganu'r delyn. Cyfrannodd y ddau ddyn lawer at fywyd diwylliannol Cymreig ac roeddent yn gefnogwyr brwd o'r Eisteddfod. Yn 1838, cyhoeddodd Bardd Alaw lyfr, The Welsh Harper. ⁠⁠Mae'n bosibl y bwriadwyd y braslun hwn fel llun ar gyfer y llyfr, er nad aeth y dyluniad i'r wasg.</p>
PARRY, John Orlando
Trwy ganiatâd Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
[No title]
SUTHERLAND, Graham Vivian
© Ystâd Graham Sutherland/Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
[No title]
JOHN, Gwen
Trwy ganiatâd Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
Yr Actor
HOCKNEY, David
(1964)
© Ystâd yr artist/Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
[No title]
BURNE-JONES, Sir Edward
Trwy ganiatâd Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
[No title]
TOFT, Albert
(1914)
Trwy ganiatâd Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
[No title]
INNES, James Dickson
(1907)
Trwy ganiatâd Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
[No title]
Photographer: HURN David
(2014)
© David Hurn / Magnum Photos / Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
[No title]
JONES, David Golden Cockerel Press
(1927)
© Ystâd David Jones. Cedwir Pob Hawl 2025/Bridgeman Images/Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
Rydyn ni’n gweithio ar ryddhau’r ddelwedd hon.
[No title]
Photographer: WILSON, Mo
(1989)
Amgueddfa Cymru
<p>Ganed Kitaj yn Ohio a daeth i Brydain ym 1958 a chael ei hyfforddi yn Rhydychen a'r Coleg Brenhinol. Mae Swrealaeth ac astudiaethau iconograffeg wedi dylanwadu'n drwm ar ei waith. Ffynhonnell y darlun hwn, a fynegir yn Saesneg fel Tedium, yw ffotograff o gynhyrchiad o 'No Exit 'gan Jean Paul Sartre. Y ffigwr anferth ar y dde yw Goethe, sy'n edrych allan drwy'r ffenestr. Mae'r ffordd lac y mae'n sefyll yn adlewyrchu'r teitl ac yn cyfeirio at 'Ennui,' sef darlun gan W.R Sickert sy'n cwmpasu anniddigrwydd dyn.</p> <p>Sbardunwyd y pwnc Tedeum yn rhannol gan ffotograff o olygfa yn ffilm Jean-Paul Satre, No Exit. Drama yw hi am dri person marw wedi'u dal mewn ystafell wrth iddyn nhw sylweddoli'n raddol taw nhw yw arteithwyr ei gilydd, heb ddihangfa. Mae'r ffigwr bychan yn codi'i fraich yn y canol yn gyfeiriad at fudiad gwrth-Natsiaidd o'r enw White Rose. Tu ôl iddo mae cytiau a simneiau gwersylloedd crynhoi Iddewon – cydnabyddiaeth o wreiddiau Iddewig yr artist.</p>
KITAJ, R.B.
(1963)
© R.B. Kitaj/Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
[No title]
LOUTHERBOURG, P.J.de
(1805)
Trwy ganiatâd Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
[No title]
HOWARD-JONES, Ray
© Nicola Howard-Jones/Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
[No title]
ALWYN-HUGHES, Robert
(1961)
© Robert Alwyn-Hughes/Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
Ciw Bara’r White Angel
Photographer: LANGE, Dorothea
(1933)
© Dorothea Lange/Amgueddfa Cymru

  • Gweithiau Celf
  • Themâu
  • Projectau ac Arddangosfeydd
  • Erthyglau Cynfas
  • Dysgu

Y Wefan

  • Amdanom Ni
  • Mynediad
  • Cwestiynau cyffredin
  • Hawlfraint
  • Cwcis

CYSYLLTWCH Â Ni

  • Cysylltwch â ni
  • Instagram @celfarycyd
× ❮ ❯