For the unknown runner
OFILI, Chris
Paupers Press
Mae Ar gyfer y Rhedwr Anhysbys gan Chris Ofili yn rhan o gyfres gyfyngedig o brintiau gan artistiaid cyfoes o Brydain a gomisiynwyd ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain 2012.
Ganwyd Chris Ofili ym Manceinion ddiwedd y 60au, ac erbyn ei fod yn 30 ef oedd yr artist Du cyntaf i ennill Gwobr Turner. Mae ei waith celf ehangach wedi ei ysbrydoli gan hip-hop a jas, cerddoriaeth sydd iddo ef yn ddathliad o ddiwylliant Du, ac mae cyfeiriadau at Dduwch yn britho ei waith.
Yn y gwaith hwn mae’r corff yn toddi i’r gofod o’i gwmpas mewn mannau, ac yn diffinio’i hun â llinellau du cryf mewn eraill. Ei gryfder yw ei allu i gyfleu’r ddau. Nid yw’r ffigwr yn y llun wedi’i ddiffinio gan hil, neu ryw. Y Rhedwr Anhysbys.
Mae'r ffigwr yn cael ei gau mewn fâs, gan gyfeirio at y Gemau Olympaidd Hynafol. Roeddent yn gyfle i ennill clod ym myd y campau, ond cawsant eu creu hefyd fel lle i werthfawrogi celf a diwylliant.
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.