Grenada, Gaudix. Andalucia, Sbaen
ECONOMOPOULOS, Nikos
Delwedd: © Nikos Economopoulos / Magnum Photos / Amgueddfa Cymru
Ar gyfer unrhyw ymholiadau ynghylch trwyddedu ac atgynhyrchu'r ddelwedd hon, cysylltwch â Magnum Photos: licensingall@magnumphotos.com
Wedi ei ysgrifennu ar gefn y gwaith hwn:
"Ro'n i'n gyrru yn Andalucia, Sbaen yn hydref 2005. Roeddwn i wedi dechrau arbrofi gyda gwahanol fformatau yn fy ngwaith ar y pryd, ac roeddwn i'n chwilio am rywbeth gwahanol a oedd eto i ddod. Safodd y ddynes yma yn y glaw yn disgwyl am rywbeth. Roedd popeth o'i chwmpas hi rywsut yn aros am rywbeth. Dw i'n araf iawn yn golygu ac yn dewis yr ychydig luniau sy’n mynd yn gyhoeddus. Mae'r rhan fwyaf yn mynd o dan fy ngwely ac felly hefyd yr un yma. Fe wnes i ei dynnu allan nawr, oherwydd y fformat sgwâr. Roedd y cyfarfyddiad newydd fel deja-vu, neu atgof dymunol." - Nikos Economopoulos
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.
Datganiad hawlfraint wedi'i ddarparu gan Amgueddfa Cymru