×

Image filter options
Mae’r wefan hon yn newydd a dal yn cael ei datblygu.
Gweithiau Celf Themâu
Projectau ac Arddangosfeydd Erthyglau Cynfas Dysgu
Amdanom Ni Cysylltwch â ni
En
Gweithiau Celf Themâu Projectau ac Arddangosfeydd Erthyglau Cynfas Dysgu Amdanom Ni Cysylltwch â ni
Nôl Gwaith Celf Blaenorol Gwaith Celf Nesaf

Glaw - Auvers

GOGH, Vincent van

Glaw - Auvers
Delwedd: Trwy ganiatâd Amgueddfa Cymru
 Chwyddo  Prynu Print

"Yn mis Mai 1890, symudodd Van Gogh o Arles yn Provence i bentref Auvers-sur-Oise, i'r gogledd o Baris. Yno bu'n lletya yn y Café Ravoux yn cael triniaeth gan Dr Paul-Ferdinand Gachet. Rhwng 17 Mehefin a 27 Gorffennaf, peintiodd Van Gogh dri ar ddeg o gynfasau sgwâr o'r gerddi a'r caeau o gwmpas Auvers. Yn ei lythyr olaf, dywedodd ei fod 'wedi llwyr ymgolli yn yr ardal helaeth o gaeau gwenith yn erbyn y bryniau, mor ddiderfyn â'r môr, o liw melyn cain, lliw gwyrdd cain, fioled cain darn o bridd wedi ei droi a'i chwynnu.' Daw'r ffordd y mae'n trin glaw fel llinellau lletraws o'r toriad pren 'Pont yn y glaw 'gan yr arlunydd Siapaneaidd Hiroshige, arlunydd yr oedd wedi copïo ei waith ym 1887. Mae'r awyrgylch yn ein hatgoffa o un o hoff gerddi Van Gogh, 'The Rainy Day' gan Longfellow: 'My life is cold, and dark, and dreary; It rains, and the wind is never weary...Into each life some rain must fall, some days must be dark and dreary.' Saethodd Van Gogh ei hun a bu farw ar 29 Gorffennaf 1890 yn fuan ar ôl peintio'r gwaith hwn. Prynwyd ef gan Gwendoline Davies ym 1920."

Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.

Datganiad hawlfraint wedi'i ddarparu gan Amgueddfa Cymru

Manylion


Collection

Amgueddfa Cymru

Rhif yr Eitem

NMW A 2463

Creu/Cynhyrchu

GOGH, Vincent van
Dyddiad: 1890

Derbyniad

Bequest, 10/4/1952

Techneg

Oil on canvas
Techniques (fine art)
Art dept - fine
Fine Art - painting

Deunydd

Oil
Canvas

Lleoliad

on display

Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.

Mwy

Tags


  • Bryniau
  • Byd Natur
  • Cae
  • Celf Gain
  • Cymunedau A Chymdeithas
  • Glaw
  • Gogh, Vincent Van
  • Nodweddion Tirweddol
  • Paentiad
  • Pentref
  • Tirwedd

Rhannu


Mwy fel hyn


  • Gweithiau Celf
  • Themâu
  • Projectau ac Arddangosfeydd
  • Erthyglau Cynfas
  • Dysgu

Y Wefan

  • Amdanom Ni
  • Mynediad
  • Cwestiynau cyffredin
  • Hawlfraint
  • Cwcis

CYSYLLTWCH Â Ni

  • Cysylltwch â ni
  • Instagram @celfarycyd
× ❮ ❯